'Pandemig yn amlygu'r angen am ysgol feddygol y gogledd'
- Cyhoeddwyd
Mae pandemig Covid-19 wedi dangos bod 'na fwy o angen nag erioed am ysgol feddygol lawn yn y gogledd, yn ôl un meddyg teulu.
Tra bod nifer cyfyngedig yn gallu astudio rhan o'u cwrs meddygaeth ym Mhrifysgol Bangor drwy gynllun â Phrifysgol Caerdydd, does dim modd gwneud y cwrs cyfan yno.
Yn ôl Dr Esyllt Llwyd o feddygfeydd Waunfawr a Llanrug mae'r pandemig wedi golygu bod 'na "bwysau mawr" ar y sector, a byddai'r drefn wedi bod yn "fwy effeithiol" pe bai mwy o feddygon.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn ystyried achos busnes dros sefydlu ysgol feddygol lawn, a bod niferoedd recriwtio yn cynyddu.
Dros y misoedd diwethaf mae meddygon teulu wedi bod ar y rheng flaen wrth fynd i'r afael â coronafeirws.
Ym Meddygfa Waunfawr mae pabell wedi ei chodi ar gyfer cleifion sydd â symptomau Covid-19.
Mae prinder meddygon teulu yn amlwg o fewn y sector, ond yn ôl Dr Llwyd mae'r pandemig wedi dangos beth yn union ydy effaith hynny, gan ddweud byddai sefydlu ysgol feddygol lawn ym Mangor yn ddatrysiad clir wrth recriwtio rhagor o feddygon.
"Yn sicr mae'r dystiolaeth wedi bod yna ers blynyddoedd," meddai.
"Be 'da ni'n weld rŵan ydy sut mae'r gweithio rhwng meddygaeth cynradd, eilradd a'r gymuned i gyd wedi gorfod stepio fyny, ac yn ôl, wedi newid yn sydyn.
"Mae 'na bwysau mawr a baich mawr arnom ni gyd i ni 'neud pethau yn wahanol."
'Dealltwriaeth ac angerdd'
Yn ôl Dr Llwyd mi fyddai rhagor o feddygon teulu sydd wedi eu hyfforddi ac yn byw yn lleol wedi gwneud gwahaniaeth mawr.
"Y bobl yna sydd hefo dealltwriaeth a'r angerdd hefyd," meddai.
"Mae angen syniad a dealltwriaeth o broblemau gwahanol ddemograffeg ac wrth gwrs mae'n rhaid i rywun treulio amser yma a deall - yr amser i ddysgu hynny ydy tra ti'n fyfyriwr."
Daw hyn wrth i ymchwil gan raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru ddangos bod 6% o feddygfeydd teulu bellach yn cael eu rheoli gan fyrddau iechyd, yn hytrach na gweithredu fel sefydliadau annibynnol.
Yn y gogledd mae'r ffigwr yma yn 13%.
Mae ceisiadau rhyddid gwybodaeth hefyd yn dangos fod pedwar o'r saith bwrdd iechyd - Betsi Cadwaladr, Caerdydd a'r Fro, Cwm Taf Morgannwg a Hywel Dda - oll wedi gwneud taliadau i gwmnïau preifat meddygol ymgynghorol sy'n cynnig gwneud peth o swydd meddyg teulu dros y ffôn.
'Dim llawer o ddewis'
Mae'r ddadl dros gael ysgol feddygol ym Mangor wedi rhygnu ymlaen er sawl blwyddyn bellach, ond yn ôl un fyfyrwraig sy'n dilyn y cwrs byddai cael cyfle i astudio'r cwrs cyfan yn y gogledd wedi bod o fudd.
"Doedd 'na ddim llawer o ddewis," meddai Magi Tudur o Benisarwaun. "Mi oedd 'na Gaerdydd yng Nghymru ond oedd bobman arall yn Lloegr".
"O'n i'n sicr eisiau cael rhan o'r cwrs yn y Gymraeg felly mi nes i orfod dewis Caerdydd.
"Dwi'n gwybod 'swn i wedi licio cael y dewis i gael cwrs yn y gogledd ar yr adeg yna, ac yn amlwg dwi'n ymwybodol fod 'na fwlch o feddygon yn y gogledd, a dwi'n meddwl buasai cael cwrs yn y gogledd yn neud gwahaniaeth efo hynna."
Tasglu ar waith
Ar hyn o bryd mae 'na 37 o fyfyrwyr yn dilyn cwrs meddygaeth ym Mangor wedi iddynt gwblhau blwyddyn flaenorol ym Mhrifysgol Caerdydd.
Ond gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a Phrifysgol Bangor bellach wedi cyflwyno achos busnes dros ehangu'r ysgol bresennol, mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod tasglu wrthi'n edrych ar ba mor addas fyddai sefydlu ysgol lawn ym Mangor.
Ychwanegodd y llywodraeth ei bod eisoes wedi buddsoddi gwerth £7m yn y cynllun presennol.
Dywedodd llefarydd hefyd fod meddygfeydd sy'n cael eu rheoli'n uniongyrchol gan fyrddau iechyd yn ffordd o "sicrhau gwasanaethau angenrheidiol", a bod ffigyrau recriwtio ar eu huchaf ers tair blynedd, gyda 200 o feddygon teulu wedi eu recriwtio eleni.
Ond y prawf yn ôl sawl meddyg lleol yw sicrhau fod y meddygon hynny yn aros yn eu cymunedau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Medi 2020
- Cyhoeddwyd2 Mai 2019