Heddlu'r Met yn ymchwilio i ddigwyddiad cyfnod Covid
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r Met yn ymchwilio i ddigwyddiad yn Senedd y DU ar 8 Rhagfyr 2020 tra bod cyfyngiadau Covid mewn grym.
Roedd Aelod Seneddol Ceidwadol Ynys Môn wedi ymddiheuro am fynychu'r digwyddiad yn Llundain yn ystod cyfyngiadau Covid.
Roedd Virginia Crosbie wedi cadarnhau fod y digwyddiad wedi'i gynnal a'i bod hi wedi mynychu, ond dywedodd nad oedd hi wedi anfon unrhyw wahoddiad.
Dywedodd hefyd mai am gyfnod byr oedd hi yno ac na wnaeth hi yfed na dathlu ei phen-blwydd.
'Ymddiheuro'n ddiamod'
Fis diwethaf, dywedodd Ms Crosbie: "Ynghylch adroddiadau am ddigwyddiad a gynhaliwyd ar 8 Rhagfyr 2020 hoffwn nodi'r ffeithiau.
"Ni anfonwyd y gwahoddiad ar gyfer y digwyddiad hwn gennyf i. Fe wnes i fynychu'r digwyddiad am gyfnod byr, ni wnes i yfed a wnes i ddim dathlu fy mhen-blwydd. Es i adref yn fuan wedyn i fod gyda fy nheulu.
"Rwy'n ymddiheuro'n ddiamod am ennyd o gamgymeriad wrth fynychu'r digwyddiad."
Mae Ms Crosbie yn gyn-ysgrifennydd preifat seneddol i'r cyn-ysgrifennydd iechyd Matt Hancock.
Pencadlys y Blaid Geidwadol
Ar wahân, mae Heddlu'r Met hefyd yn ailagor ymchwiliad i barti Nadolig ym mhencadlys y Blaid Geidwadol yn ystod cyfyngiadau Covid.
Cyhoeddwyd fideo o'r digwyddiad, lle gwahoddwyd cynorthwywyr i "ganu a chymysgu" ["jingle and mingle"] gan y Sunday Mirror.
Ond dywed yr heddlu na fyddan nhw'n ymchwilio i gynulliadau honedig yng nghartref gwledig y prif weinidog, Chequers, pan oedd Boris Johnson yn brif weinidog.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2021