Bachgen wedi'i anafu'n ddifrifol ar ôl cael ei daro gan gar

  • Cyhoeddwyd
Ceir heddlu yn Llanhari
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd y gwrthdrawiad yn Llanhari tua 17:20 ddydd Mercher

Mae bachgen 10 oed wedi dioddef anafiadau all beryglu ei fywyd ar ôl cael ei daro gan gar Rhondda Cynon Taf.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng y bachgen a char Audi A5 oedd yn cael ei gyrru gan fenyw leol yn Llanhari am tua 17:20 dydd Mercher.

Dywedodd y gwasanaeth ambiwlans fod y bachgen ar feic ar y pryd, a'i fod wedi cael ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Mae amgylchiadau'r digwyddiad dan ymchwiliad ac mae'r heddlu yn apelio am unrhyw dystion neu ddelweddau dashcam a CCTV o'r gwrthdrawiad.

Dywedodd y gwasanaeth ambiwlans fod ambiwlans awyr hefyd wedi'i yrru i'r digwyddiad, ond mai mewn ambiwlans ffordd y cafodd y bachgen ei gludo i'r ysbyty.

Pynciau cysylltiedig