Dynladdiad Mam: Methiannau gan dîm iechyd meddwl yn ôl teulu

  • Cyhoeddwyd
Margaret GriffithsFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd ei theulu ei bod yn fam, chwaer, mam-yng-nghyfraith, modryb a ffrind oedd yn cael ei charu'n fawr

Mae teulu dyn â chyflwr sgitsoffrenia paranoiaidd a drywanodd ei fam 87 oed i farwolaeth mewn ymosodiad yn ei chartref ym Mhowys wedi dweud bod yna fethiannau yn y gofal gafodd o gan y gwasanaethau iechyd meddwl.

Yn Llys y Goron Merthyr Tudful cafodd John Anderson Griffiths ei gadw am gyfnod amhenodol o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.

Bu farw Margaret Joyce Griffiths ar ôl i'w mab hynaf ymosod arni yn ei ffermdy yn Llanfrynach ar 27 Awst 2022.

Fe bleidiodd Griffiths, 57 oed, yn euog i ddynladdiad ar y sail nad oedd yn ei iawn bwyll.

'Credu bod modd atal ei marwolaeth'

Cafodd yr heddlu eu galw i'r ffermdy tua 21:25 a chafodd Mrs Griffiths, oedd yn cael ei hadnabod fel Joyce, ei chludo mewn ambiwlans awyr i ysbyty yng Nghaerdydd, ond bu farw y diwrnod canlynol.

Dywedodd yr erlynydd Caroline Rees KC bod Mrs Griffiths wedi marw o anafiadau "catastroffig".

Mewn datganiad gafodd ei ddarllen yn y llys fe ddywedodd y teulu bod tri gweithiwr iechyd meddwl wedi ymweld â fferm y teulu "ar adegau gwahanol yn y tywyllwch", ar ôl "rhagrybuddio" Griffiths eu bod yn dod.

"Does dim amheuaeth ym meddyliau'r teulu bod yr ymosodiad ffyrnig y noson honno wedi ei bryfocio gan weithredoedd y tîm iechyd meddwl ac nad oedd y dirywiad yn ei ymddygiad wedi cael ei helpu, ond yn hytrach ei waethygu ganddyn nhw yn yr wythnosau yn arwain at y digwyddiad".

Ychwanegodd y datganiad: "Rydym yn credu y gellid bod wedi atal marwolaeth Mam."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl teulu Joyce Griffiths bydd yr hyn ddigwyddodd iddi yn aros gyda nhw am byth

Cafodd Mrs Griffiths ei disgrifio gan ei theulu fel "mam, chwaer, mam-yng-nghyfraith, modryb a ffrind oedd yn cael ei charu'n fawr. Roedd "Nanny Joyce" hefyd yn nain ymroddedig a hoffus i'w wyth o wyrion a wyresau."

Dywedwyd hefyd bod Mrs Griffiths wedi chwarae rhan flaenllaw yn yr eglwys leol a chymuned y pentref lle roedd hi'n byw.

"Wnaethon ni erioed ddychmygu y byddai John yn gallu bod yn gyfrifol am ymosodiad mor ffiaidd", meddai.

"Dwi ddim yn meddwl y bydd unrhyw un ohonom yn gallu dod i delerau a faint y gwnaeth Mam ddioddef yn ei horiau olaf, a hynny o dan law ei mab, ein brawd.

"Dwi'n meddwl y bydd hyn yn aros gyda ni am byth."

'Dysgu o'r achos yma'

Dywedodd Bwrdd Iechyd Addysg Powys a Chyngor Sir Powys mewn datganiad ar y cyd: "Rydym yn estyn ein cydymdeimlad diffuant i'r teulu ar yr adeg yma am golled drasig Joyce a'r effaith sydd i'w deimlo drwy'r teulu cyfan. Bydd eu llais yn ganolog wrth inni ddysgu o'r achos yma."

Fe ddywedon nhw eu bod wedi eu hymrwymo'n llawn i'r broses adolygu annibynnol sydd eisoes ar y gweill, a bydd y casgliadau yn cael eu cyhoeddi.

Yn ôl ei deulu roedd Griffiths yn "ddyn caredig, doniol, clyfar ac yn dad gofalgar i'w ferched", ond roedd ei iechyd meddwl wedi dirywio dros y deng mlynedd diwethaf.

Cafodd ei roi mewn uned iechyd meddwl a chafodd gyffuriau gwrth-seicotig tra'n byw dramor gyda'i deulu, ond roedd yn "byw bywyd da" ar ôl cael ei ryddhau o'r uned.

Ond fe newidiodd hynny pan ddychwelodd i Gymru yn 2020 i fyw gyda'i fam ar ôl i'w briodas chwalu, ac fe aeth i ofal yr awdurdod iechyd meddwl lleol, ond fe wnaeth roi'r gorau i gymryd ei feddyginiaeth.

Yn ôl y teulu mae angen i Griffiths gael ei gadw mewn uned ddiogel am gyfnod hir iawn er mwyn i sawl cenhedlaeth o'r teulu allu "gwella" o'r hyn ddigwyddodd.

"Mae ganddon ni bryderon mawr y gallai bywyd arall gael ei golli petai'n cael ei ryddhau," meddai'r teulu.

Fe dderbyniodd Mr Ustus Griffiths ble o ddynladdiad ar y sail nad oedd Griffiths yn ei iawn bwyll oherwydd y "dystiolaeth arbenigol ar y ddwy ochr" oedd yn nodi'r negeseuon ebost roedd yn eu hanfon ar y pryd.

Fe ddywedodd y dylid cadw Griffiths o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl am gyfnod amhenodol.

Pynciau cysylltiedig