Newid hinsawdd: 'Rhaid i ni wneud rhywbeth'
- Cyhoeddwyd
Mae'r byd yn cynhesu - dydi hynny ddim yn gyfrinach ac mae yna ystadegau trawiadol newydd sy'n profi dangos effeithiau newid hinsawdd.
Yr wythnos hon cafodd y record am dymheredd cyfartalog uchaf y ddaear ei thorri deirgwaith.
Mis Mehefin eleni oedd y poethaf ar gofnod yn y Deyrnas Unedig - roedd y tymheredd cyfartalog yn agos at 15.8C, 0.9C yn uwch na'r record flaenorol yn 1940 a 1976.
Yn ôl un arbenigwr newid hinsawdd, Erin Owain, mae lle i gredu ein bod ni'n gweld rhagor o'r effeithiau yma yng Nghymru.
"Da ni'n gweld yng Nghymru wrth gwrs bod lefelau afonydd llawer is, lefelau llynnoedd yn llawer is, argaeledd dŵr a chwestiynau o amgylch hynny yn enwedig pan mae'n dod at sychder gyda chwestiynau o ran ffermwyr a chnydau ac ati."
'Rhaid i ni wneud rhywbeth'
Cafodd diwrnod newid hinsawdd ei gynnal yn Ysgol Gwent Is Coed yng Nghasnewydd yr wythnos hon, lle bu'r plant yn hel syniadau ynglŷn â sut i leihau ein heffaith ni ar dymheredd y byd, gyda'r cynigion gorau yn cael eu cyflwyno i Gyngor Casnewydd.
Roedd brwdfrydedd y disgyblion am y mater yn amlwg.
"Dydi llawer o bobl ddim yn sylwi be' ma' nhw'n 'neud i'r blaned," medd Hannah.
"Mae'n rhaid i ni 'neud rhywbeth a dysgu am y broblem a sut i'w datrys," ychwanegodd Levi.
Yn ôl Miles Hermann, athro dyniaethau yn yr ysgol, mae addysgu ein cenhedlaeth nesaf am faterion o'r fath yn bwysig.
"Profiadau fel hyn sy'n mynd i helpu nhw i fod yn ymwybodol o'r problemau sy'n ein hwynebu a gweld sut fedran nhw gyfrannu a chreu newid," dywedodd.
Dywedodd Erin Owain: "Dydy'n tai ni ddim wedi eu hadeiladu i fod yn barod ar gyfer y tymheredd yna.
"Dydy'n system iechyd ni ddim yn barod i gymryd y nifer o bobl ychwanegol i mewn i'n hysbytai ni oherwydd problemau yn ymwneud gyda thymheredd uchel.
"Mae'n bwysig bod y llywodraeth yn cymryd camau pwysig heddiw i 'neud yn siŵr ein bod ni'n paratoi am y tymheredd uwch yn ein hafau ni yn y dyfodol.
"Parhau i godi mae'r tymheredd am 'neud ac felly mae'n bwysig bod ni'n dechrau addasu heddiw i'r lefelau yma."
Mae rhybudd Llywodraeth Cymru yr un mor drawiadol.
Yn ôl y gweinidog newid hinsawdd, Julie James, mae'r sefyllfa'n fygythiad i ddynoliaeth ac mae'n rhaid i bethau newid.
"Mae'n fygythiad bywyd neu farwolaeth i ddynoliaeth," meddai.
"Mae'n rhaid i ni newid hynny a dod yn fwy hunangynhaliol. Mae newid hinsawdd yn bodoli ac mae'n digwydd nawr."
Ychwanegodd nad problem i genedlaethau'r dyfodol i'w datrys ydy newid hinsawdd a bod angen i bawb geisio cyfrannu nawr i sicrhau gwell dyfodol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mai 2023
- Cyhoeddwyd12 Awst 2022
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2023