Dim pryderon am sychder fel haf 2022 yng Nghymru eleni
- Cyhoeddwyd
Does dim bwriad gwahardd pibellau dŵr na chyhoeddi rhybuddion am sychder yng Nghymru eleni, yn ôl penaethiaid cwmnïau dŵr.
Mae lefelau cronfeydd dŵr ac afonydd wedi gwella, yn dilyn y gwanwyn a'r haf sychaf ers dros 150 o flynyddoedd yn 2022.
Ond, ochr yn ochr ag awdurdodau amgylcheddol a Llywodraeth Cymru, maent yn annog y cyhoedd i barhau i feddwl yn fwy gofalus am eu defnydd o ddŵr.
Dywedodd Dŵr Cymru nad oes amheuaeth fod newid hinsawdd yn effeithio ar gyflenwadau.
Eglurodd y prif swyddog gweithredol Peter Perry fod sychder y llynedd wedi bod yn "heriol iawn" i'r cwmni, gyda "stociau cronfeydd dŵr dan bwysau difrifol" a galw "digynsail" gan gwsmeriaid.
Cafodd gwaharddiad ar bibelli dŵr ei osod yn Sir Benfro a rhannau o Sir Gaerfyrddin, gan effeithio ar tua 60,000 o dai.
Wrth i wythnosau o dywydd sych droi'n fisoedd heb law sylweddol, cyhoeddwyd yn y pendraw fod Cymru gyfan mewn sychder swyddogol.
Byddai'n Ionawr 2023 cyn i'r sefyllfa gael ei hystyried yn ôl i "normal" gan gorff gwarchod yr amgylchedd, Cyfoeth Naturiol Cymru.
Ond ar hyn o bryd mae lefelau cronfeydd dŵr "mewn lle da iawn", esboniodd Mr Perry.
'Dŵr yn adnodd gwerthfawr'
Rhwng Ionawr ac Ebrill 2023 derbyniodd Cymru 108% o'i glawiad disgwyliedig, gyda mis Mawrth yn un o'r gwlypaf a gofnodwyd erioed.
"Ar hyn o bryd dydyn ni ddim yn rhagweld unrhyw gyfyngiadau eleni. Rydyn ni'n barod am haf anodd ac mewn sefyllfa dda i ddelio â hynny," meddai.
Dywedodd Mr Perry fod y cwmni'n gorfod cynllunio "mwy nawr nag y buon ni erioed yn y gorffennol" ar gyfer cyfnodau hir o dywydd sych, o ganlyniad i newid hinsawdd.
Roedd rhan o hyn yn cynnwys buddsoddi £200m dros y pum mlynedd nesaf ar waith cadernid, gan gynnwys cysylltu'r gwahanol barthau cyflenwi dŵr yng Nghymru'n well, fel y gall ardaloedd â mwy o gyflenwadau helpu i ychwanegu at y rheiny sydd mewn trafferthion ar adegau o sychder.
"Rydyn ni'n wynebu amgylchiadau gwahanol iawn, iawn, gyda llai o law a thymheredd uwch," meddai Mr Perry.
"Yr hyn rydyn ni'n ei weld gyda newid hinsawdd yw'r ffaith bod dŵr yn adnodd gwerthfawr."
Wrth gydnabod fod gan y cwmni fwy i'w wneud i drwsio gollyngiadau, dywedodd y byddai hefyd yn annog y cyhoedd i "fod yn feddylgar yn eu defnydd o ddŵr".
'Newidiadau bach, gwahaniaeth mawr'
Mae'n neges sydd wedi ei adleisio gan y Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James a ddywedodd fod "natur anwadal y tywydd ac effeithiau newid hinsawdd yn golygu y gall amodau newid yn gyflym".
"Ystyriwch sut rydych chi'n defnyddio dŵr ar hyn o bryd, ac am unrhyw ffyrdd y gallwch helpu i arbed dŵr," meddai mewn datganiad i nodi Wythnos Arbed Dŵr.
"Gall gwneud newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr.
"Mae treulio munud yn llai yn y gawod, diffodd y tap wrth olchi dannedd a pheidio â gadael i'r tap redeg wrth olchi llestri yn fan cychwyn gwych.
"Os byddwn yn defnyddio llai, byddwn yn gostwng faint o ynni a ddefnyddir ar gyfer cyflenwi dŵr a thrin dŵr gwastraff, a fydd o gymorth i leihau ein ôl troed carbon a'n gwneud yn fwy gwydn o ran newid hinsawdd."
Mae Green Squirrel, menter gymdeithasol gweithredu hinsawdd yng Nghaerdydd, wedi bod yn cynnal gweithdai yn dysgu pobl sut y gallant wneud eu gerddi yn fwy gwydn i sychder.
"Mae 'na lot fawr o ddiddordeb ar ôl tywydd poeth yr haf diwethaf," esboniodd rheolwr y prosiect, Hannah Garcia.
"Mae'n bendant yn rhywbeth y mae angen i bob garddwr ei ystyried nawr, oherwydd mae'r hinsawdd yn newid ac ni allwn ddibynnu ar y tymhorau i fod yr un peth."
Mae Ms Garcia yn rhedeg y sesiynau ar-lein ac o brosiect Gerddi'r Rheilffordd y fenter yn ardal Sblot - sydd wedi troi darn o dir diffaith rhwng traciau trên a thai lleol yn ganolbwynt i'r gymuned leol.
Mae pob adeilad yn yr ardd gyda system i gasglu a storio'r dŵr glaw sy'n syrthio ar eu toeau, ac mae'r gwelyau'n llawn o blanhigion i helpu cadw'r pridd wedi'i orchuddio a'i gysgodi fel ei fod yn cadw lleithder.
"Mae llawer o ymchwil wedi dangos mai ardaloedd trefol ac yn enwedig rhai incwm isel sy'n dioddef fwyaf yn ystod tywydd eithriadol o boeth - mae llai o goed a llai o gyfleoedd i bobl guddio o'r gwres," medd Ms Garcia.
"Felly bydd unrhyw beth y gallwn ei wneud i gynnig lle yma i bobl fod o gwmpas gwyrddni - ond hefyd eu cefnogi i wneud eu cartrefi eu hunain yn oerach ac yn fwy cysgodol - o fudd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd8 Medi 2022
- Cyhoeddwyd25 Awst 2022