Llangefni i gynnal ei ffair fwyd gyntaf erioed

  • Cyhoeddwyd
Stondin
Disgrifiad o’r llun,

Os bydd y ffair fwyd gyntaf yn llwyddiant y bwriad fydd cynnal un arall ym mis Hydref

Am y tro cyntaf erioed bydd ffair fwyd yn cael ei chynnal yn Llangefni ar Ynys Môn.

Eisoes mae 'na dros 50 o stondinau wedi dweud y byddan nhw'n bresennol a bydd mynediad i'r ŵyl ar 22 Gorffennaf am ddim.

Maes parcio neuadd y dref fydd y safle ac os y bydd yn llwyddiant y bwriad fydd cynnal un arall ym mis Hydref.

Syniad rheolwr newydd y farchnad, Emyr Owen o gwmni Tatws Trading, ydi'r cyfan.

Er bod llai na mis ers iddo fo gymryd yr awenau mae o'n dweud bod yr ymateb i'r syniad o gynnal ffair fwyd wedi bod yn galonogol.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Emyr Owen ei fod yn bwysig cael busnesau lleol yn y ffair

"I gysidro mod i mond wedi cymryd drosodd ers rhyw dair wythnos i fis mae'r ymateb wedi bod yn dda," meddai wrth raglen Post Prynhawn.

"Mi fydd 'na ddigon o ddewis yma - crefftau lleol, bwyd wrth gwrs, coginio carte', cawsiau, cig wedi ei fygu.

"A dwi wedi trio cael cynifer o fusnesau lleol hefyd achos mae'n bwysig i'r ardal eu bod nhw yn medru gwerthu eu cynnyrch i fwy o gynulleidfa na maen nhw yn ei gael yn y siopau neu lle bynnag maen nhw'n gwerthu eu cynnyrch fel arfer."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Emyr Owen ei fod wedi derbyn llawer o gefnogaeth am y syniad er bod pryderon am effaith gostau cynyddol

Serch fod 'na bryder am gostau byw yn sgil chwyddiant a chyfraddau llog sydd yn dal i godi, mae Mr Owen yn ffyddiog bod 'na awch am ŵyl o'r fath ac y bydd yna gefnogaeth.

"Mae o i fyny i'r cynhyrchwyr ddenu pres oddi wrth y cwsmer hefo safon y cynnyrch a'r knack o fedru cael pobl i wario pres," ychwanegodd.

"Mae Llangefni a Sir Fôn yn gyffredinol wedi bod yn dda inni dros y blynyddoedd a wedyn 'dach chi'n meddwl 'wel, mi driwn ni dalu'n ôl'. Ac os y medrwn ni gael trefn y tro hwn, wel falle y byddwn ni yn trefnu eto."

Mae'r cyfweliad llawn ar raglen Post Prynhawn ddydd Llun.

Pynciau cysylltiedig