Her gyfreithiol gorsaf pwmpio dŵr Caerdydd yn methu
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr wedi colli eu her gyfreithiol yn erbyn cynllun i godi gorsaf pwmpio carthffosiaeth mewn parc poblogaidd.
Roedd Cymdeithas Trigolion Ystum Taf yn dadlau nad oedd Cyngor Caerdydd wedi delio'n briodol â'r cais cynllunio i godi gorsaf ym Mharc Hailey.
Fe wadodd y cyngor na fu digon o graffu ar y cynlluniau a'u bod heb gael yr holl wybodaeth berthnasol, gan gynnwys asesiad effaith amgylcheddol, cyn cymeradwyo'r cynllun.
Yn dilyn gwrandawiad fis diwethaf yng Nghaerdydd, mae'r her gyfreithiol wedi cael ei gwrthod yn gyfan gwbl.
Yn ôl Dŵr Cymru mae'r orsaf yn angenrheidiol er mwyn delio â dŵr gwastraff o ddatblygiad tai Plasdŵr yn ardal Radur, ble mae'n fwriad i godi hyd at 7,000 o gartrefi.
Dywedodd y Barnwr Jarman KC bod "y ffaith bod angen yr orsaf pwmpio ar gyfer datblygiad Plasdŵr ddim yn golygu na fydd hefyd yn gwasanaethu datblygiadau eraill sy'n bodoli neu'n bosib yn y dyfodol, ac roedd hawl gan yr awdurdod i ystyried y materion hynny".
Ychwanegodd bod diffyg manylion o ran rhai elfennau mewn adroddiad gan swyddog cynllunio ddim yn ei hanfod yn gamarweiniol.
'Wedi gweithredu'n rhesymegol'
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd eu bod "wedi ceisio bod yn agored ac yn eglur drwy'r broses am ei rôl fel awdurdod cynllunio" ac wedi dweud "o'r dechrau ein bod wedi gweithredu'n gywir".
Roedd yr her yn eu herbyn, meddai, "wedi methu ar bob sail" a'r llys wedi dyfarnu bod y cyngor "wedi gweithredu'n rhesymegol ac yn briodol".
Ychwanegodd eu bod yn cydnabod bod trigolion yn dal â phryderon ynghylch effaith y gwaith adeiladu, ond eu bod yn dymuno "cydweithio gyda nhw a Dŵr Cymru" i'w lliniaru.
Dywed y gwrthwynebwyr bod y dyfarniad yn siom ond bod eu brwydr yn erbyn yr orsaf yn parhau, ar sail "dadleuon moesol, iechyd, lles ac amgylcheddol i beidio ag adeiladu ar ein mannau gwyrdd gwerthfawr".
Mae Cymdeithas Trigolion Ystum Taf nawr yn galw ar "ein gwleidyddion etholedig i frwydro drosom", gan honni bod system gynllunio Cymru'n "ffafrio anghenion datblygwyr dros anghenion cymunedau".
Ychwanegodd bod y grŵp ymgyrchu "yn gryfach fel cymuned a bydd ein hymgyrch yn parhau gydag egni a brys cynyddol".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2022