Rhys Patchell yn ymuno â'r Highlanders yn Seland Newydd

  • Cyhoeddwyd
Rhys PatchellFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Rhys Patchell ei ryddhau gan y Scarlets ar ddiwedd y tymor

Mae maswr Cymru, Rhys Patchell, wedi arwyddo i glwb Highlanders yn Seland Newydd ar ôl cael ei ryddhau gan y Scarlets.

Mae wedi arwyddo cytundeb blwyddyn o hyd gyda'r clwb, sy'n chwarae yng nghynghrair Super Rugby.

Roedd Patchell yn rhan o garfan Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad eleni, ond penderfynodd Warren Gatland yn erbyn ei gynnwys yn y garfan hyfforddi cyn Cwpan Rygbi'r Byd.

Yn siarad ar Dros Frecwast fore Mercher dywedodd Patchell, 30, fod y cyfle yn un "rhy dda i beidio ei gymryd".

'Dim lot yn cael y cyfle'

"Does dim lot o bobl yn cael y cyfle i fynd i Super Rugby ac i Seland Newydd yn enwedig," meddai.

Ychwanegodd fod sefyllfa recriwtio rhanbarthau Cymru yn "galed" yn sgil toriadau i gyllidebau.

"Mae'r byd rygbi yn go ansicr ar hyn o bryd," meddai.

"Mae'r clybiau yn Iwerddon - gan eu bod nhw'n cael eu cyflogi gan yr undeb ac felly nhw sy'n talu'r cyflogau yn fan'na - mae bach mwy o sicrwydd."