Athro o Gasnewydd yn gwella ar ôl trywanu Tewkesbury

  • Cyhoeddwyd
Jamie SansomFfynhonnell y llun, Jamie Sansom
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jamie Sansom yn dweud ei fod yn gobeithio bod yn ôl yn yr ysgol cyn gwyliau'r haf

Mae athro o Gasnewydd a gafodd ei drywanu mewn ysgol yn Sir Gaerloyw wedi dweud ei fod yn gwella'n dda, a bod negeseuon o gefnogaeth wedi rhoi "hwb" iddo.

Cafodd Jamie Sansom ei anafu mewn coridor yn Tewksbury Academy fore Llun.

Dywedodd yr athro, sydd wedi dysgu yn yr ysgol ers 2017: "Rwy'n falch o ddweud fy mod yn gwella'n dda.

"Diolch i bawb sydd wedi helpu i fy rhoi ar y llwybr tuag at wellhad llwyr tebygol."

Mae bachgen 15 oed wedi cael ei gyhuddo o geisio anafu yn fwriadol ac o fod ag arf miniog yn ei feddiant.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i Tewkesbury Academy fore Llun

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad tua 09:00 ddydd Llun.

Dywedodd yr athro mathemateg na allai wneud wneud sylw manwl ar yr hyn ddigwyddodd, a hynny ar gyngor yr heddlu, ond fe gadarnhaodd nad oedd yn ceisio atal ffrwgwd rhwng disgyblion ar y pryd.

"Yn fy marn i, doedd yr un o ddisgyblion Tewkesbury yn wynebu unrhyw fygythiad uniongyrchol ar y pryd," meddai.

Bachgen i ymddangos yn y llys

Dywedodd yr heddlu bod yr athro wedi cael ei drywanu unwaith a'i gludo i Ysbyty Brenhinol Sir Gaerloyw, a'i fod wedi cael ei ryddhau yn hwyrach y diwrnod hwnnw.

Mae Mr Sansom, sy'n dod o dde Cymru ond sy'n byw yn Sir Gaerloyw, yn dweud ei fod yn gobeithio dychwelyd i'r ysgol cyn gwyliau'r haf, os bydd meddygon yn credu ei fod wedi gwella'n llwyr.

Cafodd disgyblion a staff eu cloi yn yr Academi am gyfnod ddydd Llun, yn ogystal â dwy ysgol gyfagos wrth i'r heddlu ymateb i'r digwyddiad.

Cafodd bachgen ei arestio yn Stoke Orchard, tua thair milltir o'r ysgol, rhyw ddwy awr wedi'r digwyddiad.

Mae'r bachgen wedi ei gadw yn y ddalfa, a bydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Cheltenham ddydd Mercher.

Pynciau cysylltiedig