Betsi Cadwaladr: Cysylltu â rhagor dros fethiannau fasgwlar

  • Cyhoeddwyd
Betsi Cadwaladr

Mae rhagor o deuluoedd wedi cael clywed gan fwrdd iechyd y gogledd y gallai marwolaeth perthynas fod yn gysylltiedig â thriniaeth fasgwlaidd.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) wedi ysgrifennu at deuluoedd ar ôl i arbenigwyr godi pryderon y llynedd.

Roedd pedwar o'r achosion hynny eisoes wedi eu hadrodd i'r crwner, a nawr mae'r bwrdd iechyd yn dweud eu bod wedi bod yn "agored iawn" gyda theuluoedd cleifion eraill allai fod wedi marw ar ôl triniaeth, er doedd y bwrdd ddim am gadarnhau'r union nifer.

Yn ddiweddar cafodd y gwasanaethau eu disgrifio gan arolygwyr fel rhai oedd yn gwneud "cynnydd boddhaol", ond mae'r bwrdd iechyd yn cydnabod eu bod ar "siwrne hir".

Beth sydd wedi digwydd?

Casglodd adroddiad gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon yn Lloegr fis Ionawr 2022 bod 'na risg i gleifion, yn rhannol oherwydd diffygion wrth gadw cofnodion.

Fe wnaethon nhw argymell bod y bwrdd iechyd yn ymchwilio'n llawn i'r hyn ddigwyddodd i'r 47 claf oedd yn destun eu hadroddiad.

Cafodd y gwaith hwnnw ei wneud gan adolygiad allanol ac mae'r bwrdd iechyd wedi ysgrifennu yr wythnos hon at y cleifion a'r teuluoedd dan sylw.

Beth mae'r bwrdd iechyd yn ei ddweud?

Wrth siarad â BBC Cymru, dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Meddygol y bwrdd iechyd, Dr Nick Lyons, ei bod hi'n bwysig ceisio "gwneud y peth iawn i'r teuluoedd a'r cleifion".

"Rydym wedi ysgrifennu atyn nhw i rannu ein canfyddiadau a'r adroddiadau, ond efallai'n bwysicach i ymddiheuro lle rydym ni wedi cael pethau'n anghywir ac i egluro pa newidiadau rydym wedi eu gwneud o ganlyniad i'r ymchwiliadau."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Nick Lyons bod y bwrdd iechyd yn "glir iawn" gyda teuluoedd y cleifion dan sylw

Ychwanegodd: "Dydy llawer o'r cleifion ddim gyda ni bellach yn anffodus.

"Mae'r rhesymau'n niferus a fyddai hi ddim yn briodol i ni wneud sylw ar hynny mewn arena gyhoeddus, ond rydym wedi bod yn agored iawn gyda chleifion ble mae rhywun wedi colli ei fywyd.

"Ble mae rhywun wedi marw, rydym wedi bod yn glir iawn gyda'r teuluoedd am y rhesymau a beth rydym ni wedi ei wneud yn sgil hynny."

Wrth gael ei holi ymhellach am faint o farwolaethau fu, yn ychwanegol i'r pedwar gafodd eu cyfeirio at y crwner, atebodd Dr Lyons: "Oherwydd bod llawer o'r cleifion yma yn fwy oedrannus, fyddai'r cleifion hynny ddim gyda ni beth bynnag am resymau gwahanol, felly fyddai hi ddim yn iawn imi roi rhif penodol."

Dywedodd bod y casgliadau'n amrywio o achos i achos, gyda rhai'n dangos "methiannau sylweddol" mewn gofal, ond eraill yn "enghreifftiau o ofal da".

Roedd rhai o'r achosion yn dyddio'n ôl i 2014.

'Esgeulustod a niwed diangen'

Wrth wneud sylwadau ar yr achos, dywedodd yr aelod Ceidwadol lleol yn Senedd Cymru, Darren Millar:

"Mae'n sgandal llwyr fod mwy o farwolaethau a mwy o gleifion wedi'u niweidio o ganlyniad i fethiannau fasgwlar nac yn flaenorol gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

"Dylai'r bwrdd iechyd rhoi gwybod i bobl Gogledd Cymru ac yr awdurdodau am y nifer o gleifion sydd wedi cael eu heffeithio. Mae teuluoedd, cleifion a'u hanwyliaid yn haeddu gwybod yn union esgeulustod a niwed diangen y mae pobl wedi'i ddioddef.

"Mae nawr yn hanfodol bod yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ac yr heddlu yn archwilio'r materion i bennu os oes angen mynd i'r afael ag achos o esgeulustod troseddol."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd gwasanaethau fasgwlar y gogledd eu symud i Ysbyty Glan Clwyd yn Ebrill 2019

Beth yw'r cefndir i'r achosion?

Mae gwasanaethau fasgwlaidd wedi bod o dan y chwyddwydr ers cael eu had-drefnu yn 2019, gyda gwasanaethau mwy arbenigol yn cael eu canoli o Ysbyty Gwynedd, Bangor ac Ysbyty Maelor, Wrecsam i Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan.

Fis diwethaf fe gasglodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru bod y bwrdd wedi gwneud "cynnydd boddhaol" wrth ymateb i argymhellion Coleg Brenhinol y Llawfeddygon yn Lloegr.

"Mae'r ffordd rydym yn gweithredu yn y maes fasgwlaidd wedi newid yn fawr", meddai Dr Lyons, "rydym wedi newid y ffordd rydym ni'n staffio, gyda meddygon 'gradd canolig' ar ddyletswydd i helpu'r rota."

"Rydym yn mynd y tu hwnt i'r arfer gorau trwy sicrhau bod achosion mwy difrifol, llawdriniaeth aortaidd, mae 'na wastad dau ymgynghorydd profiadol yn rhoi'r llawdriniaeth."

"Rydym wedi cryfhau'r modd rydym ni'n trafod pethau yn ein timau aml-ddisgyblaethol, gwella'r ffordd rydym yn trafod gyda'n cleifion, ond hefyd cynnwys arbenigwyr o du allan i'r bwrdd iechyd i feddwl am beth fyddai orau."

Dywedodd Dr Lyons y byddai rhan o'r drafodaeth gyda rhai teuluoedd yn "debygol" o gynnwys setliad ariannol.