Betsi: 'Rhybudd olaf' i wella gwasanaethau fasgwlar o fewn 3 mis

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Glan Clwyd
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd gwasanaethau fasgwlar y gogledd eu symud i Ysbyty Glan Clwyd yn Ebrill 2019

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi "rhybudd terfynol" i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr y gallai fod mewn mesurau pellach o fewn tri mis os na fydd gwelliannau.

Daw ar ôl i adroddiad gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon (RCS) godi nifer o faterion a gwneud cyfres o argymhellion brys.

Er i'r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan ddweud bod cynnwys yr adroddiad yn "siom ac yn achos pryder", penderfynodd roi "rhybudd olaf" i'r bwrdd iechyd, yn hytrach na'i rhoi dan fesurau arbennig yn syth.

Ond mae'r Ceidwadwyr wedi cyhuddo'r llywodraeth o chwarae gemau gwleidyddol ac wedi galw'r mater yn "sgandal".

Mewn ymateb dywedodd cadeirydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr fod y corff yn bwriadu ymateb "ar unwaith" i ganfyddiadau'r adolygiad.

Roedd gwasanaethau fasgwlar y gogledd wedi eu canoli yn Ysbyty Gwynedd, Bangor tan Ebrill 2019 - tan i'r hwb symud i Ysbyty Glan Clwyd.

Mae cleifion a staff wedi codi ofnau'n aml ynghylch y symud, ac roedd ail ran adroddiad yr RCS, a gyhoeddwyd yn gynharach y mis hwn, yn feirniadol iawn o wasanaethau fasgwlar sy'n cael eu rhedeg gan Betsi.

Mae ymgyrchwyr a gwleidyddion lleol wedi galw am adfer gwasanaethau, yn enwedig yn Ysbyty Gwynedd, lle'r oedd darpariaeth flaenorol yn cael ei hystyried o "safon rhyngwladol".

Yn fwy diweddar, roedd pwysau cynyddol i gyflwyno mesurau arbennig a hyd yn oed i gynnal ymchwiliad cyhoeddus.

Mewn datganiad ddydd Mercher, dywedodd Ms Morgan AS fod y bwrdd iechyd wedi "ymateb yn gyflym i ail ran adolygiad RCS ac wedi cymryd nifer o gamau ar unwaith".

Ond bydd y bwrdd iechyd nawr yn gorfod adrodd yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru bob mis am unrhyw welliannau i'r gwasanaethau fasgwlar, meddai.

Daeth y bwrdd iechyd allan o fesurau arbennig ym mis Tachwedd 2020, a hynny ar ôl bod o dan reolaeth uniongyrchol Llywodraeth Cymru ers haf 2015.

'Nid yn seiliedig ar dystiolaeth'

Mae'r Ceidwadwyr yn dweud fod sylwadau diweddaraf Ms Morgan yn profi fod y llywodraeth yn anghywir i godi'r mesurau ar y bwrdd iechyd.

Dywedodd Darren Millar AS bod "methiant Llywodraeth Lafur Cymru i gyflawni'r gwelliannau y maen nhw wedi'u haddo mewn gofal iechyd i bobl ar draws gogledd Cymru yn sgandal".

"Mae datganiad heddiw gan y Gweinidog Iechyd yn gyfaddefiad bod y penderfyniad i dynnu mesurau arbennig yn ôl y llynedd yn wleidyddol, ac nid yn seiliedig ar dystiolaeth o welliant sylweddol," meddai.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi dangos ei bod methu gweddnewid Betsi.

"Yn lle chwarae gemau gwleidyddol mae angen 'mesurau ychwanegol arbennig' arnom rŵan i sicrhau bod cleifion gogledd Cymru yn cael y gofal iechyd amserol, o ansawdd uchel y maen nhw'n ei haeddu."

'Ymateb ar unwaith'

Disgrifiad o’r llun,

Mark Polin ydi Cadeirydd y bwrdd iechyd ers 2018, yn dilyn cyfnod fel Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru

Mewn ymateb dywedodd cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Mark Polin: "Gwahoddodd y Bwrdd Iechyd y Coleg Brenhinol i gynnal yr adolygiad yma oherwydd nifer o bryderon am y modd yr oedd y gwasanaeth yn gweithredu.

"Cafodd hyn ei lywio gan adborth cleifion a Chyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru.

"Mae'r pryderon hynny wedi'u cadarnhau gan yr adolygiad ac rydym yn ymateb ar unwaith.

"Rydym yn derbyn canfyddiadau rhannau un a dau o'r adolygiad yn llwyr a byddwn yn parhau i wneud gwelliannau yn y gwasanaeth, er mwyn sicrhau ein bod yn darparu'r ansawdd gofal mae ein poblogaeth yn ei haeddu ac yn ei ddisgwyl.

"Mae cyhoeddiad clir y Gweinidog Iechyd yn adlewyrchu'r awydd sydd gennym ni gyd i wella gofal - yn gyflym - ac rydym yn bwriadu bodloni disgwyliadau'r gweinidog a'n cymunedau."