Teimlo 'cywilydd' am fethu gweithio oherwydd salwch

  • Cyhoeddwyd
dynes ar y soffaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ffigyrau'n dangos bod mwy o bobl nag erioed i ffwrdd o'r gwaith oherwydd salwch hirdymor

Mae dynes o ogledd Cymru sydd yn methu gweithio oherwydd salwch hirdymor wedi dweud ei bod yn teimlo "cywilydd" ac wedi ei "gwthio o'r neilltu".

Yn ôl Emma* - nid ei henw cywir - fe fyddai'n hoffi dychwelyd i'r gwaith, ond mae'n dweud bod yna ddiffyg cefnogaeth i'w helpu.

Mae'r ffigyrau swyddogol diweddaraf, dolen allanol yn dangos bod nifer y bobl yn y DU sydd ddim yn gweithio oherwydd salwch hirdymor ar ei lefel uchaf erioed.Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn gweithio i helpu pobl sydd â phroblemau iechyd i ddychwelyd i'r gwaith.

'Colli fy hyder a hunan-barch'

Mae Emma* wedi bod i ffwrdd o'i gwaith o fewn y sector iechyd oherwydd salwch hirdymor hir ers iddi gael Covid 19, ac yn dweud ei bod yn teimlo cywilydd am fethu gallu dychwelyd i'r gwaith.

Mae'n dweud bod yna ddiffyg cefnogaeth gan ei chyflogwyr, ac nad ydy ei chyflwr wedi cael ei ddeall yn iawn.

"Tydy nhw ddim wedi cymryd fy nghyflwr iechyd o ddifri', a dwi'n teimlo mod i wedi cael fy nhaflu o'r neilltu," meddai.

"Dwi'n teimlo bod llawer o'r bai wedi ei roi ar iechyd meddwl. Mae'r cyflwr wedi effeithio ar fy iechyd meddwl, ond nid dyna'r hyn sy'n achosi'r salwch.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dydy tua 2.5 miliwn o bobl yn DU ddim yn gweithio oherwydd problemau iechyd, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol

"Dywedwyd wrtha i y dylwn i fod yn ofalus a mynd allan i'r awyr iach, oedd yn teimlo fel mod i'n cael fy mychanu."Mae Emma yn teimlo y gallai ddychwelyd i'w gwaith, gyda rhai newidiadau a hyblygrwydd.

"Dywedwyd wrtha i y bydd angen cwblhau nifer uchel o oriau gwaith yn fy wythnos gyntaf 'nôl - ond tydi pob salwch ddim yn gallu ymdrin â pholisi caeth," meddai.Mae'n dweud y byddai'n hoffi gweld Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod yna well ymwybyddiaeth ac addysg i gyflogwyr.

'Ddim yn golygu nad ydyn ni eisiau gweithio'

Fe wnaeth Nicola Allen o'r Eglwys Newydd yng Nghaerdydd ddechrau cael problemau iechyd yn ystod ei beichiogrwydd, ac ers hynny mae hi wedi cael diagnosis o fibromyalgia a Syndrom Blinder Cronig (Chronic Fatigue Syndrome)."Roeddwn i wastad yn bwriadu dychwelyd i'r gwaith pan fyddai fy mab yn yr ysgol yn llawn amser, ond wnaeth hynny ddim digwydd," meddai.

"Roeddwn i'n teimlo ar goll, roeddwn i'n galaru am fy mywyd."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Nicola Allen mae ei chyflogwyr presennol yn gefnogol a hyblyg

Roedd Nicola wedi gweithio yn Llundain am flynyddoedd fel prynwr i siop ddillad boblogaidd ar y stryd fawr.

Ar ôl tua wyth mlynedd, cafodd gyfle gwaith rhan-amser yn ddiweddar drwy gwmni ffrind.Mae'n dweud bod ei chyflogwyr presennol wedi bod yn gefnogol a hyblyg fel y gall reoli ei hiechyd, ac mae'n dweud ei bod yn teimlo'n ffodus ac yn fwy hyderus oherwydd hynny."Dydy salwch tymor hir ddim yn golygu nad ydyn ni eisiau gweithio," meddai. "Yn anffodus dydyn ni ddim yn cael y cyfleoedd i weithio gyda'n salwch."

Beth mae'r ffigyrau yn eu dangos?

  • Dydy tua 2.5 miliwn o bobl yn DU ddim yn gweithio oherwydd problemau iechyd, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS);

  • Mae'r ONS yn beio cynnydd mewn problemau iechyd meddwl, a phobl yn dioddef o boen cefn, o bosib oherwydd gweithio gartref;

  • Ar gyfartaledd, am bob 13 person sydd yn gweithio, mae un person i ffwrdd o'r gwaith yn hir-dymor oherwydd salwch.

Dywedodd David Freeman, pennaeth ffigyrau'r farchnad waith yn y Swyddfa Ystadegau, bod y ffigyrau "wedi dechrau mynd i fyny cyn y pandemig".

"Ond fe wnaeth y patrwm yna gynyddu i mewn i'r pandemig, a chyflymu yn 2021 i gyrraedd ei lefel uchaf erioed," meddai.Yn ôl Mr Freeman, yn ogystal â chynnydd mewn problemau iechyd meddwl a phoen cefn, mae yna newid yn y math o salwch ac maen nhw hefyd yn gweld problemau fel blinder ôl-feirws all fod yn gysylltiedig â Covid hir.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Allai gweithio o gartref fod yn ffactor sy'n esbonio cynnydd yn y nifer sy'n dioddef o boen cefn?

'Angen ymyrraeth wedi ei thargedu'

Yn ôl pennaeth Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru, Ben Cottam, mae'r rhai sydd i ffwrdd ar salwch tymor hir yn cael effaith sylweddol."Mae salwch yn costio £5bn y flwyddyn i fusnesau drwy'r DU, felly mae yna effaith economaidd yn sicr," meddai.

"Dyna pam rydyn ni am weld y llywodraeth yn cyflwyno ymyrraeth wedi ei thargedu."

Mae'r FSB yn galw am ailgyflwyno ad-daliad tâl salwch i fusnesau bach, gafodd ei gyflwyno gan Lywodraeth y DU yn ystod y pandemig.

Maen nhw'n dweud hefyd bod angen i lywodraethau Cymru a'r DU gydweithio ar y mater.

'Blaenoriaethu'r rhai sydd fwyaf angen cymorth'

Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n "gweithio i helpu pobl sydd â salwch yn ôl i weithio".

"Mae ein cynllun ar gyfer Sgiliau a Chyflogaeth yn blaenoriaethu y rhai sydd fwyaf angen cymorth," meddai llefarydd.

"Mae hyn yn cynnwys cefnogi pobl i aros mewn gwaith, ac i'r rhai sydd yn bellach i ffwrdd o'r farchnad waith i ddod o hyd i gyflogaeth.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Ffederasiwn Busnesau Bach yn dweud bod salwch yn costio £5bn y flwyddyn i fusnesau drwy'r DU

"Yn ychwanegol, ym mis Chwefror 2023 fe wnaethon ni gyhoeddi'r Gwasanaeth Allan o Waith i gefnogi 10,500 o bobl sy'n gwella o afiechyd meddwl a/neu gamddefnydd sylweddau i gael addysg, hyfforddiant neu waith erbyn Mawrth 2025."

Dywedodd Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU eu bod hwythau wedi buddsoddi £3.5 biliwn "i helpu miliynau o bobl... aros a llwyddo yn y gwaith".

"Mae ein cynllun yn llwyddo - mae anweithgarwch yng Nghymru wedi gostwng ers y chwarter diwethaf," meddai llefarydd.

"Ond i'r rhai sy'n methu dychwelyd i'r gwaith eto, gall cyflogwyr ddewis rhoi mwy o dâl salwch galwedigaethol am gyfnod hir, tra bod y Credyd Cynhwysol yn darparu cymorth ariannol cadarn i'r rhai sydd angen cefnogaeth ychwanegol."

Pynciau cysylltiedig