'Y farchnad swyddi'n anodd, ond mae 'na gyfleoedd'
- Cyhoeddwyd
"Mae lot o bobl yn meddwl bod swyddfa gyrfaoedd ar gyfer pobl ifanc. Fe fydda i'n 48 mis nesaf, a dyw pobl hŷn ddim yn sylweddoli bod help mas yna."
Collodd Eiry Phillips ei swydd fel gwerthwr blodau ar ddechrau 2022, ond gyda chefnogaeth cynghorydd gyrfaoedd, mae hi bellach wedi sefydlu ei chwmni ei hun.
Daw hynny wrth i'r data diweddaraf ddangos bod diweithdra yng Nghymru wedi cynyddu am y trydydd mis yn olynol.
Mae'r gyfradd ddiweithdra bellach yn 5%, sy'n gydradd uchaf yn y DU, ac mae wedi cynyddu'n gynt yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf nag unrhyw ran arall.
'Y cam nesaf'
"O'n i ddim yn gwybod pwy ffordd i droi," meddai Eiry wrth gofio colli ei swydd y llynedd.
Daeth i gwrdd â'r ymgynghorydd Shan Thomas o Gyrfa Cymru ar ôl i'w chefnogaeth sicrhau gwaith newydd, a'r cyfle i fod yn hunan-gyflogedig.
Rôl a phwrpas yr ymgynghorwyr yw annog pobl sy'n chwilio am waith i gysylltu gyda Gyrfa Cymru am gymorth.
"Ni'n gallu helpu nhw i fod yn fwy ymwybodol o'u sgiliau; efallai bod lot o sgiliau gyda nhw, a bod nhw ddim yn sylweddoli," meddai Ms Thomas.
"Ni'n gallu helpu dadansoddi pa sgiliau sy' gyda nhw, a helpu nhw i edrych ar y cam nesaf ynglŷn â'u gyrfa."
Mae cyfradd ddiweithdra Cymru wedi cynyddu mewn misoedd diweddar, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, a nawr wedi cyrraedd 5%.
Mae hynny 1.2% yn uwch na'r un cyfnod llynedd, gyda 76,000 o bobl yn y wlad bellach yn ddiwaith.
Y gyfradd gyflogaeth yw 71.9%, sydd tua'r un peth â fis diwethaf, ond yn gwymp o 1.8% o'i gymharu â'r un lefel y llynedd.
Fis Mehefin, cyhoeddodd gwneuthurwr cynnyrch meddygol Zimmer Biomet ym Mhen-y-bont gynlluniau i gau, gan olygu colli hyd at 540 o swyddi.
Collodd 700 o weithwyr eu gwaith pan gaeodd ffatri 2Sisters yn Llangefni, Ynys Môn ddiwedd Mawrth.
Ond does dim angen anobeithio, yn ôl Eiry Phillips. Fe gollodd hi ei swydd ar ôl 20 mlynedd o weithio yn y diwydiant blodau.
Doedd hi "ddim yn siŵr pa ffordd i droi" tan i Gyrfa Cymru roi arweiniad iddi, ac fe aeth hi ati wedyn i sefydlu ei busnes ei hun yn yr un maes.
"Dyma beth o'n i eisiau gwneud blynyddoedd yn ôl, a nawr dwi'n gwybod os nad o'n i wedi cael fy ngwneud yn ddiwaith fyddwn i byth wedi gallu gweithio ar ben fy hun.
"Nes i angladd ddoe, wedi gwneud priodas - just popeth. Joio gwneud rhywbeth fy hunan, heb rywun yn dweud wrtha i sut i wneud e."
'Mwy o ansicrwydd am chwyddiant'
Roedd cyflogau cyfartalog y DU, heb gynnwys taliadau bonws, wedi codi o 7.9% yng Nghymru dros y flwyddyn hyd at fis Mehefin 2023.
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru fe ddywedodd y Dr Robert Bowen o Adran Fusnes Prifysgol Caerdydd: "Mae'r ffigyrau yn dangos darlun eithaf amrywiol ar hyn o bryd.
"Mae'r lefelau diweithdra wedi codi, ac mae hynny braidd yn syndod gan fod pobl yn disgwyl i hynny fynd lawr yn ystod y cyfnod yma, ond mae'r pobl mewn gwaith wedi codi hefyd.
"'Dan ni'n gwybod fod pobl yn dychwelyd i'r gweithlu, a falle fod hynny yn rhywbeth sydd wedi newid ers cyfnod y pandemig... mae nifer y swyddi sy'n cael eu hysbysebu i lawr, ond dal ar lefel uchel iawn.
"Felly be' ry'n ni'n gweld yw fod bylchau yn rhai o'r sectorau gwahanol yn yr economi lle mae 'na brinder swyddi yn rhai llefydd, ac yn llefydd eraill mae'r sefyllfa yn fwy cystadleuol."
Gyda chyflogau wedi cynyddu 7.3%, ychwanegodd bydd hynny'n creu "mwy o ansicrwydd o ran chwyddiant".
Mae'r lefel chwyddiant yn 8.7%, sy'n sylweddol uwch na tharged Banc Lloegr o 2%.
"'Dan ni'n gwybod fod y lefel chwyddiant yn uchel iawn ar hyn o bryd, ac oherwydd hynny mae pobl wedi bod yn streicio i gael cyflogau uwch," ychwanegodd Dr Bowen.
"Ond beth rydyn ni'n gweld yn nhermau real yw fod cynnydd cyflog i lawr, gan fod y lefel chwyddiant yn uchel iawn.
"Y pryder am chwyddiant ar hyn o bryd yw bod 'na brinder swyddi ar draws nifer o sectorau, sy'n gwthio lefel cyflogau i fyny wrth drio denu pobl i'r sectorau yna.
"Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n trio cadw rheolaeth ar chwyddiant."
'Mwy o gyfleon nawr nac erioed'
Mewn ffair swyddi yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn ddiweddar, roedd cymysgedd o gyn-ddisgyblion ysgol, graddedigion a phobl hŷn eisiau newid.
"Rwy'n edrych i weld beth sydd allan yno," meddai Karen Ferguson, 52. Mae hi'n chwilio am her newydd ar ôl 30 mlynedd yn gweithio gyda morgeisi.
"Mae'n gyfle i mi edrych ar opsiynau i gymharu gyda beth dwi wedi bod yn gwneud.
"Rwy'n diflasu'n hawdd! Tra bod y farchnad mor fywiog, ac mae pobl yn ysu am bawb a neb, dwi'n credu bod y bar yn is. Mae mwy o gyfleoedd nawr na deng mlynedd yn ôl."
Er y penawdau torcalonnus am ddiweithdra, mae cyflogwyr yn dal i gael trafferth llenwi rhai swyddi.
"Rydym yn sylwi ein bod yn cael ymgeiswyr o safonau amrywiol yn y broses recriwtio," meddai Danielle Allen, oedd yn y ffair yn recriwtio aelodau staff i gwmni bysiau Stagecoach.
Mae'r cwmni angen gyrwyr, peirianwyr a glanhawyr. Ond dywedodd Ms Allen bod prinder gweithwyr gyda sgiliau priodol yn gwneud y broses recriwtio yn anodd.
"Roedd pobl heb gymwysterau o gwbl oedd yn edrych i adeiladu eu sgiliau, a phobl oedd methu gyrru yn rhoi ei enwau lawr am swyddi," dywedodd.
"Mae'n anodd iawn allan yno ar y foment."
'Patrwm pryderus'
Wrth ymateb i'r ffigyrau diweithdra diweddaraf dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n parhau i annog busnesau i greu "swyddi o safon, sy'n hyblyg ac yn cynnig cyfleoedd am dâl gwell i weithwyr".
"Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar leihau segurdod economaidd," meddai llefarydd.
"Mae ein bwriad economaidd yn cadarnhau bod gennym ni'r pwerau i leihau'r bwlch mewn sgiliau, cefnogi swyddi gwell ac yna taclo tlodi."
Ychwanegodd fod cynllun gwaith y llywodraeth yn blaenoriaethu'r rheiny "sydd angen help fwyaf", a'u bod yn ceisio cadw pobl yn eu swyddi yn ogystal â helpu eraill i ddod o hyd i waith.
Ond dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar yr economi, Paul Davies AS, fod angen "cymryd camau brys i sicrhau fod y patrwm yma ddim yn parhau".
"Mae angen i weinidogion ym Mae Caerdydd weithio gyda busnesau a'u helpu nhw i dyfu - mae hynny'n golygu creu mwy o gyfleoedd caffael, diwygio'r system gynllunio a buddsoddi mewn sgiliau ar gyfer y dyfodol," meddai.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Luke Fletcher, nad oedd "llawer wedi newid" ers i un o weinidogion Llafur Llywodraeth Cymru gyfaddef bedair blynedd yn ôl eu bod nhw'n "esgus gwybod" beth roedden nhw'n ei wneud gyda'r economi.
"Mae'r patrwm pryderus o gynnydd mewn diweithdra yng Nghymru yn adlewyrchu diffyg menter gan y llywodraeth hon, sy'n ymateb yn hytrach na bod yn flaengar wrth adeiladu gweithlu Cymreig cynaliadwy," meddai.
Ychwanegodd fodd bynnag fod llawer o'r grym dros benderfyniadau economaidd "yn parhau i fod yn San Steffan", ac nad oedd Llafur yn ddigon parod i herio'r Ceidwadwyr er mwyn cael gafael ar y pwerau hynny.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2023