'Penderfyniadau anodd i ddod' medd y Prif Weinidog

  • Cyhoeddwyd
Disgyblion yn bwyta prydau ysgolFfynhonnell y llun, PA Media

Mae'r cyhoeddiad na fydd prydau ysgol ar gael am ddim ar gyfer plant cymwys dros wyliau'r haf yn esiampl o'r "penderfyniadau anodd" sy'n wynebu Llywodraeth Cymru yn y flwyddyn nesaf, yn ôl y Prif Weinidog.

Mae penderfyniad y weinyddiaeth i ddileu'r polisi wedi cael ei feirniadu gan y gwrthbleidiau a rhai gwleidyddion Llafur.

Rhybuddiodd Mark Drakeford hyd yn oed petai arian yn dod i'r amlwg "trwy wyrth ar y foment hon", y byddai'n rhy hwyr i wneud y trefniadau angenrheidiol ar gyfer gwyliau'r haf yma.

Cymru oedd gwlad cyntaf y DU, yn Ebrill 2020, i gynnig prydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau i blant o aelwydydd incwm isel.

Fe gafodd y polisi ei gyflwyno mewn ymateb i'r argyfwng Covid, a'i ehangu tu hwnt i'r pandemig tan ddiwedd y gwyliau hanner tymor diwethaf.

Nawr mae gweinidogion yn dweud y byddai'n costio £15m i ymestyn y cynllun tan ddiwedd y gwyliau haf a dyw'r arian hwnnw ddim ar gael.

Yn gynharach yn yr wythnos, fe ddywedodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, bod Plaid Cymru wedi gwrthod rhyddhau'r arian ar gyfer y prydau o'r gyllideb sydd wedi ei neilltuo ar gyfer y cytundeb cydweithio rhwng y blaid a Llafur Cymru yn y Senedd.

'Rhaid talu staff, agor ceginau...'

Dywedodd Mr Drakeford: "Rwy'n trafod yn rheolaidd gydag arweinwyr Plaid Cymru yr arian ry'n ni wedi glustnodi ar gyfer y cytundeb cydweithio, ac mae wedi ei neilltuo ar gyfer y pwrpasau hynny. 

"Hyd yn oed pe tasai arian ym ymddangos trwy wyrth ar y foment yma, ni fyddai modd iddo wneud pethau yn ystod y gwyliau ysgol yma. 

"Mae'n rhaid i chi dalu staff, agor ceginau, archebu bwyd o flaen llaw. Ni ellir gwneud hynny ar gyfer y gwyliau yma." 

Disgrifiad o’r llun,

Mae gwerth cyllideb Llywodraeth Cymru yn llai erbyn hyn oherwydd yr heriau ariannol, medd Mark Drakeford

Dywedodd Plaid Cymru fod maint yr arian sydd wedi ei glustnodi ar gyfer ymrwymiadau'r cytundeb cydweithio "yn ganran fach iawn o gyllideb gyfan Llywodraeth Cymru".

Fe alwodd yr arweinydd, Rhun ap Iorwerth, ar y llywodraeth i wneud tro pedol "hyd yn oed mor hwyr yn y dydd â hyn".

"Mae'n rhaid i lywodraeth Cymru edrych ar beth yw ei blaenoriaethau o ran gofalu am y plant tlotaf," meddai.

"Does dim byd yn fwy o flaenoriaeth, a thra ei bod hi'n hwyr yn y dydd, mae hyn mor bwysig fel bod yn rhaid i'r llywodraeth fod yn edrych ym mhob cornel o'i chyllideb i weld beth ellir ei wneud."

Blwyddyn 'heriol'

Dywedodd Mr Drakeford wrth y rhaglen hefyd bod y flwyddyn nesaf yn mynd i fod yn "heriol iawn" a bod cyllideb y llywodraeth yn werth £900m yn llai o ran yr hyn mae'n bosib i'w brynu erbyn hyn na phan gyhoeddwyd ei maint.

"Mae'n golygu y bydd yna rai penderfyniadau anodd iawn, iawn am sut ydyn ni'n llwyddo i gario ymlaen i wneud y pethau ry'n ni mo'yn eu gwneud gyda'r arian sydd gyda ni," meddai.

"Ac mae'r £15m yna ar gyfer prydau ysgol am ddim yn y gwyliau yn arwydd cynnar o ba mor heriol y bydd y penderfyniadau hynny."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r AS Ceidwadol Stephen Crabb yn 'cydymdeimlo rhywfaint' â Llywodraeth Cymru yn sgil yr heriau economaidd cyffredinol

Fe gafodd y mater ei drafod ar yr rhaglen hefyd gydag AS Ceidwadol Preseli Penfro, Stephen Crabb.

Yn ystod y pandemig fe wnaeth Mr Crabb wrthwynebu penderfyniad Llywodraeth y DU i stopio cynnig prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau ysgol.

"Mae'n mynd i fod yn wyliau ysgol anodd," dywedodd. "Pe tasai yna ffordd i ganfod adnoddau i helpu teuluoedd a phlant trwy gyfnod y gwyliau yna yn amlwg mi fyswn i'n cefnogi hynny," meddai.

Ond fe ychwanegodd Mr Crabb ei fod yn "cydymdeimlo rhywfaint" gyda Llywodraeth Cymru o ystyried yr heriau ariannol sydd o'u blaenau.