Y Barri: Arestio dau ar ôl canfod £200,000 o gyffuriau

  • Cyhoeddwyd
Amffetamin a canabisFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Daeth swyddogion o hyd i 55kg o amffetamin, 10kg o ganabis a £9,000 mewn arian parod

Mae'r heddlu wedi arestio dau ddyn wedi iddyn nhw ddod o hyd i werth £200,000 o gyffuriau yn eu meddiant.

Daeth swyddogion o hyd i 55kg o amffetamin, 10kg o ganabis a £9,000 mewn arian parod yn Y Barri ddydd Sadwrn.

Dywedodd Heddlu De Cymru bod y cyffuriau wedi eu hatafaelu yn dilyn warant ar Ffordd Porthceri.

Mae'r dau ddyn wedi eu cyhuddo a'u cadw yn y ddalfa, meddai'r llu.

Pynciau cysylltiedig