Gwrthdrawiad Aberpennar: Cludo chwe pherson i'r ysbyty

  • Cyhoeddwyd
Ffordd Newydd, AberpennarFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y ffordd ei chau i'r ddau gyfeiriad rhwng Heol Dyffryn ac Ysbyty Cwm Cynon

Mae chwech o bobl wedi eu cludo i'r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad rhwng sawl cerbyd.

Dywedodd Heddlu De Cymru bod tri char wedi bod yn rhan o'r gwrthdrawiad ar Ffordd Newydd yn Aberpennar, Rhondda Cynon Taf.

Cafodd chwe ambiwlans ffordd a dau ambiwlans awyr eu hanfon am 14:30 brynhawn Sul.

Roedd y ffordd wedi ei chau i'r ddau gyfeiriad rhwng Heol Dyffryn ac Ysbyty Cwm Cynon.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: "Cafodd pedwar o bobl eu cludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, gan gynnwys un mewn hofrennydd, a chludwyd dau berson mewn ambiwlans i Ysbyty'r Tywysog Siarl."

Pynciau cysylltiedig