Trais: Annog dynion i ystyried eu hymddygiad nhw

  • Cyhoeddwyd
Farrell Rafferty
Disgrifiad o’r llun,

Mae Farrell Rafferty - bocsiwr amatur o Gasnewydd - yn dweud fod ei agwedd tuag at ferched wedi newid er gwell

Mae Farrell Rafferty, bocsiwr amatur 25 oed o Gasnewydd, yn dweud bod ei farn am ymddygiad dynion tuag at ferched wedi newid llawer dros y blynyddoedd.

"Ron i bob amser yn gweld dynion fel yr alffa mewn perthynas, yr agwedd oedd 'Byddai'n gofalu am bopeth - edrychwch chi'n bert…' ddim mewn ffordd amharchus," meddai.

Mae Farrell, sy'n rhan o Gampfa Bocsio St Joseph's yn y ddinas, wedi cymryd rhan mewn ymgyrch sy'n bwriadu addysgu dynion ifanc rhwng 18-34 oed.

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgyrch "Iawn" sy'n annog dynion ifanc i edrych ar eu hymddygiad eu hunain yn y gobaith o leihau trais yn erbyn menywod. 

Roedd Farrell yn un o griw o ddynion ifanc fu'n trafod pynciau fel gwrywdod gwenwynig, rheolaeth drwy orfodaeth ac ymddygiad a allai arwain at drais yn erbyn menywod er mwyn llunio'r ymgyrch.

Newid agwedd 'anghywir'

Dywedodd iddo gael ei fagu gan fam sengl a'i fod "bob amser wedi parchu menywod".

Ond mae'n cyfaddef ei fod wedi "gweld menywod mewn ffordd wahanol" yn y gorffennol, ond wrth iddo dyfu i fyny fe "sylweddolodd fod hynny'n anghywir".

Dywedodd bod rhaid herio agweddau allai arwain at drais yn gyflym.

"Mae gen i grŵp o ffrindiau ac os yw un ohonon ni'n gwneud rhywbeth o'i le, fe fyddwn ni'n cael ein tynnu i fyny arno," meddai.

Mae'n credu bod tynnu sylw ffrindiau at ymddygiad amheus yn hanfodol.

"Mae lot o ddynion dwi'n meddwl yn ofnus o dynnu eu ffrindiau lan ar bethau, achos maen nhw'n meddwl eu bod nhw'n mynd i golli'r cyfeillgarwch yna. 

"Ond os wyt ti'n ffrind go iawn, ti'n gwybod pan ti'n gwneud rhyweth o'i le."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Patrick Bilongo nad oedd dangos emosiwn yn rhywbeth oedd yn cael ei annog, ond fod hynny'n newid

Mae Farrell hefyd yn cael budd o fynd i'r gampfa yn St Joseph's, er mwyn siarad â dynion eraill.

"Dyw hi ddim jyst yn fater o ddyrnu pobl yn eu hwynebau. Ry'n ni'n mynd drwy anawsterau yn ein bywydau ac yn gwybod y gallwn ni bob amser siarad â'n gilydd," meddai.

Mae Patrick Bilongo, 20, yn credu bod gan y cyfryngau, cerddorion a rapwyr ddylanwad ar ymddygiad dynion.

Dywedodd nad oedd dangos emosiwn yn rhywbeth oedd yn cael ei annog, ond nawr mae wedi dysgu ei fod "hollol i'r gwrthwyneb, ac yn iawn i wneud hynny".

Yn ogystal dywedodd Patrick nad oedd ymddygiad rhai rapwyr a dylanwadwyr yn cynrychioli bywyd go iawn. 

Cyn cymryd rhan yn yr ymgyrch, dywedodd Patrick nad oedd yn ymwybodol o'r mathau o ymddygiad amheus oedd yn bodoli na chwaith rheolaeth drwy orfodaeth.

'Cam positif'

Nod yr ymgyrch, fydd yn targedu dynion ifanc gyda chynnwys addysgiadol ar gyfryngau cymdeithasol, podlediadau ac ar deledu yw gwneud, Cymru y lle mwyaf diogel yn Ewrop i fenywod.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ymgyrch yn "gam positif" medd Rhian Bowen-Davies

Mae Rhian Bowen-Davies yn ymgynghorydd annibynnol ym maes trais yn erbyn menywod, trais yn y cartref a thrais rhywiol.

Mae'n croesawu'r ymgyrch yma'n fawr ac yn ei gweld fel "cam positif".

"Ma rhoi'r gwybodaeth yma i ddynion yn galluogi nhw i gael yr hyder i alw dynion eraill allan ac i drafod yr agweddau yna fel cymdeithas fel y gallwn ni ddod â diwedd i drais ar sail rhywedd a deall yn union yr effaith ma hynny'n cael ar yr unigolyn," meddai.

Ychwanegodd ei bod yn gweld budd yn y modd mae'r llywodraeth yn targedu dynion yn uniongyrchol gyda'r negeseuon.

"Dwi'n credu bod y ffaith ei fod wedi cael ei gyd-gynhyrchu gyda dynion ledled Cymru o bob math o gefndir, yn gweithio mewn meysydd gwahanol yn helpu ni i ddeall beth sy'n bwysig i ddynion, beth yw eu dylanwadau nhw, beth yw'r negeseuon ma nhw am wrando arnynt a ble mae'n nhw'n cael y negeseuon yna," ychwanegodd.

Mae Zhivago Greaux wedi bod yn hyfforddi'n St Joseph's ers tua 8 mlynedd, ac mae'n ceisio agor meddyliau dynion ifanc sy'n mynd i'r gampfa

Mae'n dweud hefyd ei fod yn rhannu ei ansicrwydd a'i deimladau ei hun gan obeithio bod hyn yn yn annog y dynion ifanc i fod yn agored hefyd.

"Ar hyn o bryd, rwy'n teimlo nad oes gennym ni fannau diogel lle mae dynion yn gallu siarad. Dwi'n meddwl mai'r hyn sydd angen i ni ei wneud, a'r hyn dwi wedi ceisio ei wneud yma yw creu amgylchedd sy'n caniatáu i ddynion siarad," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Zhivago Greaux yn ceisio annog dynion i fod yn agored am eu teimladau

Mae Jane Hutt, gweinidog dros gyfiawnder cymdeithasol Llywodraeth Cymru'n dweud bod hon yn "ymgyrch wirioneddol bwysig".

Dywedodd bod casineb at wragedd, rhagfarn ar sail rhyw a thrais yn y cartref yn y newyddion bob dydd ac mae "pobl yn siarad amdano fel epidemic".

"Mae'n drist, yn yr oes yma, nad yw dynion iau dal ddim yn gweld bod menywod o bob oedran yn parhau i ddioddef lefelau annerbyniol o drais ac aflonyddu rhywiol," meddai Ms Hutt.