Brecwast i ddynion yn Nhalsarnau yn 'werth y byd'

  • Cyhoeddwyd
Y Capel Newydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r brecwast yn un o ddigwyddiadau Eglwys Efengylaidd Ardudwy er mwyn lledu'r efengyl a rhoi cyfle i ddynion siarad

Mae cael clwb brecwast i ddynion yn unig yn "werth y byd am fod dynion yn gyndyn o siarad a rhannu teimladau", medd un sydd newydd fynychu digwyddiad o'r fath am y tro cyntaf yn Nhalsarnau ger Harlech.

Mae'r clwb sy'n cyfarfod yn nhafarn y Ship Aground yn un o weithgareddau Y Capel Newydd, sef Eglwys Efengylaidd Ardudwy, a dywedodd y gweinidog Dewi Tudur Lewis mai'r nod yw "rhannu'r efengyl ymhlith pobl na fyddai fel arfer yn mynd i gapel neu eglwys".

"Mae 'na gyrsiau ar gyfer gwahanol geffylau. Mae'r oedfaon traddodiadol wedi cael eu hanelu at gapel - pobl sy'n gyffyrddus mewn lle traddodiadol.

"Mae hwn yn ddigwyddiad o fath gwahanol ac yn gyfle i bobl gymdeithasu yn ogystal," meddai.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

"Dyw dynion ddim yn cael cymaint o gyfle i rannu pethau," meddai'r Parchedig Dewi Tudur Lewis

"Meddwl oeddwn i bod e'n gyfle i griw o ddynion ddod at ei gilydd.

"Mae 'na sôn cyson am gyflyrau meddyliol a'r angen i ddynion i gael cyfle i sgwrsio efo'i gilydd, rhannu pethe a siarad am gwestiynau mawr bywyd.

"Mae pobl yn dod am y brecwast am ddim, mae yna sgwrs Gristnogol ei naws am ryw chwarter awr i 20 munud ac yna cyfle i drafod cant a mil o bethau - dydyn ni ddim yn rhuthro adre'.

"Rhaid i mi gyfaddef ein bod ni fel dynion yn gallu bod yn gymeriadau rhyfedd iawn. Ma'n meddyliau ni yn gallu bod yn reit gaeedig - felly dwi'n ei weld o yn gyfle gwerthfawr.

"Mae'n rhaid cofio bod gan ddynion galon. Maen nhw'n teimlo weithiau i'r byw am bethau a falle ddim yn cael lot o gyfle i rannu."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Capel Newydd hefyd yn cynnal digwyddiadau i fenywod yn unig

Mae'r brecwast yn un o nifer o weithgareddau ehangach Y Capel Newydd ac yn rhan o raglen 20 mlynedd.

"'Dan ni'n credu mewn gweithgareddau o'r math yma," ychwanegodd Dewi Tudur.

"Mae'r Arglwydd Iesu Grist yn ein galw ni i fod yn bysgotwyr - mae rhai pobl yn disgwyl i'r pysgod neidio mewn i'r cwch ond 'dan ni yn trio mynd lle mae'r pysgod."

'Ni yw'r cam cyntaf'

Mae'r capel yn cynnal oedfaon traddodiadol ond hefyd yn cynnal digwyddiadau i fenywod ac fel rhan o gynllun Croeso Cynnes wedi agor y capel yn ystod misoedd y gaeaf.

"Roedd hi'n braf croesawu pobl i le cynnes efo paned a chinio syml, ond be' mae hwnna wedi'i wneud yw agor y drws i ni i fynd atyn nhw," meddai Dewi Tudur.

"Mae pobl rŵan yn dod aton ni i ofyn am help efo materion ariannol, efo digartrefedd a thrais yn y cartref. Mae pobl wedi ffeindio bo' ni ar gael a 'dan ni yn gallu eu cyfeirio i gael help proffesiynol.

"Ni yn aml yw'r cam cyntaf ac mae hwnna'n fraint hefyd."

Mae digwyddiadau o'r fath yn hynod o bwysig, medd Patrick Young wedi iddo fod yn ei frecwast cyntaf yn nhafarn y Ship Aground.

"Mae'n ddigwyddiad sy'n sôn am yr efengyl ond yn ddigwyddiad sy'n dod â ni ddynion at ein gilydd," meddai.

"Ychydig iawn o gyfleoedd sydd yna i ddynion gwrdd â'i gilydd heblaw mewn cyd-destun cystadleuol, er enghraifft pêl-droed neu rygbi, ac mae'n dda bo' ni'n gallu cwrdd â'n gilydd mewn awyrgylch gwahanol.

"Un peth dwi wedi bod yn 'neud yn bersonol, ers blynyddoedd, yw cuddio be' dwi'n deimlo go iawn - felly mae hyn yn dda.

"Mae'n dda cael cyfle i ymlacio a chael brecwast da, wrth gwrs. Ardderchog!"

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r brecwastau yn cael eu cynnal yn nhafarn y Ship Aground yn Nhalsarnau

Un arall sydd wedi bod yn mynd i'r brecwast yw Eifion Jones. Iddo ef hefyd mae'r cyfan yn werthfawr.

"Mae'n dod â dynion at ei gilydd - i wrando ar yr efengyl ond mae'n gyfle i feddwl am bethau nad ydyn ni fel arfer yn meddwl amdanynt ac yn sicr ddim yn eu trafod.

"Mae'n gyfle i feddwl a dechrau dweud pethau'n dawel mewn awyrgylch sy'n ddiogel gyda chyfeillion a phobl chi'n dod i 'nabod.

"Mae'n gyfle hefyd i gwrdd â phobl newydd."

Pynciau cysylltiedig