Anfarwoli tri o sêr rygbi cyffiniau Bae Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Fore Mercher 19 Gorffennaf, cafodd cerflun ei ddadorchuddio ym Mae Caerdydd o dri o fawrion rygbi'r gynghrair.
Yn dilyn pleidlais gyhoeddus, cafodd Billy Boston, Gus Risman a Clive Sullivan eu dewis o blith rhestr fer o 13 o sêr y gêm a oedd wedi eu geni o fewn tair milltir i leoliad y cerflun - o Tiger Bay, Trebiwt, Grangetown, Adamsdown a Sblot - ond a oedd wedi teithio i ogledd Lloegr er mwyn cael y cyfle i serennu yn y gamp. Mae hyn yn rhan o brosiect Un Tîm - Un Ddynoliaeth, Anrhydeddu Torwyr Cod Byd Rygbi Bae Caerdydd.
Mae enwau'r tri yn enwog yn yr ardaloedd ble buon nhw'n chwarae, ond pwy ydy'r chwaraewyr yma sydd o'r diwedd yn cael cydnabyddiaeth yn eu dinas - a'u gwlad - eu hunain?
Billy Boston
Cafodd Billy Boston ei eni yn Nhrebiwt yn 1934. Chwaraeodd rygbi'r undeb dros glybiau ieuenctid amrywiol yng Nghaerdydd, ac yna i Gastell-nedd.
Fodd bynnag, doedd yna ddim cyfleoedd i chwaraewyr du gynrychioli Cymru yn y gamp ar y pryd, felly cododd ei bac a symud i Wigan i chwarae rygbi'r gynghrair yn 1953. Roedd hyn yn wir am nifer o chwaraewyr; y teimlad oedd fod ganddyn nhw fwy o siawns o fynd yn bellach o symud i ogledd Lloegr i chwarae.
Aeth Boston ati i sgorio 478 o geisiau mewn 487 gêm i Wigan, a helpu'r tîm i gyrraedd chwe rownd derfynol y Gwpan Her. Roedd hefyd yn rhan o dîm Prydain Fawr a enillodd Cwpan Rygbi'r Gynghrair y Byd yn 1960.
Cafodd cerflun iddo ei ddadorchuddio tu allan i stadiwm Wigan Warriors yn 2016, ac mae eisteddle o fewn y stadiwm wedi ei enwi ar ei ôl.
"Mae Billy Boston yn enw anferthol o fewn rygbi'r gynghrair," meddai'r sylwebydd a chyn-chwaraewr rygbi'r undeb a gynghrair, Jonathan Davies. "Dydi pobl ddim yn sylweddoli pa mor fawr yw pobl fel Billy Boston lan yng ngogledd Lloegr."
Gus Risman
Ganwyd Gus yn Tiger Bay yn 1911, yn fab i fewnfudwyr o Rwsia, a'i fagu yn Y Barri.
Er ei fod yn fedrus mewn pêl-droed hefyd, roedd rygbi'r gynghrair yn opsiwn gwell yn ariannol bryd hynny. Rhwng 1929 ac 1954, chwaraeodd dros Salford a Workington Town, gan sgorio 4,052 o bwyntiau mewn 873 o gemau, ac arwain Workington at fuddugoliaeth yn y Gwpan Her yn 1952 fel chwaraewr-hyfforddwr.
Yn ystod yr 1930au a dechrau'r 40au, enillodd 18 cap dros Gymru ac un dros Loegr, yn ogystal â chynrychioli Prydain Fawr. Risman hefyd oedd capten tîm y Llewod yn Awstralia yn 1946.
Ar ôl gorffen ei yrfa chwarae lwyddiannus, bu'n hyfforddi'r gamp. Bu farw yn 1994 yn 83 oed.
Yn 2015, roedd yn un o bump seren rygbi'r gynghrair i gael eu hanfawroli mewn cerflun tu allan i Stadiwm Wembley, ynghyd â Martin Offiah, Eric Ashton, Alex Murphy, a'i gyd-Gymro, Billy Boston, ac mae stryd wedi ei enwi ar ei ôl yn nhref Workington, sef Risman Place.
Clive Sullivan
Yn Sblot y ganed Clive Sullivan, a hynny yn 1943. Oherwydd anafiadau a llawdriniaethau pan oedd yn blentyn, roedd hi'n ymddangos fel petai chwarae rygbi allan o'i gyrraedd, ond yn dilyn llwyddiant ar y cae rygbi pan oedd yn y fyddin, penderfynodd geisio mynd amdani.
Chwaraeodd rygbi'r gynghrair dros Hull - ochr-yn-ochr â'i ymrwymiadau â'r fyddin i ddechrau - gan sgorio 250 o geisiau mewn 352 dros y clwb rhwng 1961 ac 1974. Yn ei 213 gêm dros Hull Kingston Rovers, sgoriodd 118 o geisiau. Enillodd y Gwpan Her â'r ddau glwb.
Cynrychiolodd Brydain Fawr 17 o weithiau, gan gynnwys fel capten yng Nghwpan y Byd 1972, gan sgorio cais ym mhob un o bedair gêm y tîm, a'u harwain at fuddugoliaeth yn y pencampwriaeth gyfan. Sullivan oedd y person du cyntaf i fod yn gapten ar Brydain Fawr mewn unrhyw gamp. Roedd hefyd yn gapten yng Nghwpan y Byd 1975, ond ar Gymru y tro yma.
Bu farw o ganser yn 1985, yn ddim ond 42 oed, ac mae un o'r prif ffyrdd i mewn i Hull wedi ei enwi'n Clive Sullivan Way fel teyrnged iddo.
Hefyd o ddiddordeb: