Menyw wedi lladd ei hun ar ôl cael ei threisio
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth merch a gafodd ei threisio ladd ei hun wedi iddi ddarganfod fideo cudd o'r ymosodiad ar ffôn symudol y troseddwr.
Roedd Tina Lewis, 24 oed wedi ffieiddio o weld bod ei phartner achlysurol wedi ei threisio tra roedd yn cysgu, ac fe ddaeth o hyd i'r fideo ar ei ddyfais.
Cafodd ei marwolaeth ei ddatgelu wrth i'w chyn-bartner Edward Weeks, 33, gael ei garcharu am wyth mlynedd am ei threisio.
Clywodd y llys fod hynny wedi arwain at Miss Lewis - a gafodd ei disgrifio fel bod "fel plentyn" - i ladd ei hun wedi i'r heddlu ddechrau ymchwilio i'r treisio.
Dywedodd yr erlynydd Matthew Cobbe wrth y llys fod Weeks wedi recordio'r ymosodiad ar gamerau oedd yn gallu canfod symudiad pan oedd Miss Lewis yn cysgu yn ei ystafell wely.
Disgrifiwyd sut yr oedd gan Miss Lewis nifer o anawsterau yn feddyliol, ac roedd hi'n ddibynnol ar Weeks yn ystod y berthynas a barodd am bum mlynedd yn achlysurol.
Dywedodd Mr Cobbe fod Miss Lewis yn "fregus iawn".
Dywedodd: "Roedd ganddi awtistiaeth, diffyg rheolaeth emosiynol, roedd yn hunan-niweidio ar brydiau ac yn ystyried lladd ei hun weithiau.
"Roedd yn ymddangos fel plentyn ac roedd yn cario tedi-bêr arbennig gyda hi."
Canfod y fideo
Roedd Miss Lewis yn aros yng nghartref Weeks yng Nghwmbrân ym mis Rhagfyr y llynedd pan y gwnaeth ei threisio wedi iddi ddisgyn i gysgu.
Y diwrnod canlynol fe wnaeth roi ei ffôn i Miss Lewis er mwyn chwarae gêm ac fe ddaeth o hyd i'r fideo.
Ychwanegodd Mr Cobbe mai'r "prosesau a ddaeth yn dilyn y gŵyn, yn fwy na'r treisio ei hun" sy'n ymddangos o fod wedi cael yr effaith waethaf ar Miss Lewis, ac a arweiniodd at ei marwolaeth.
Dywedodd chwaer Miss Lewis, Saffron, wrth y llys fod Tina Lewis wedi cael bywyd anodd wedi iddi golli ei mam pan yn 11 oed, gan arwain at nifer o drafferthion iechyd meddwl.
Ychwanegodd ei datganiad: "Mae'r effaith ar ein teulu wedi bod yn ddinistriol. Dwi wedi colli fy ffrind gorau. Tina oedd ysbrydoliaeth fwyaf fy mywyd."
'Gweithred fileinig'
Wrth siarad ar ran Weeks, dywedodd ei gyfreithiwr Julia Cox: "Mae hwn yn achos trasig, a does dim y medra i ddweud sy'n lliniaru hynny."
Ychwanegodd fod gan Weeks hefyd awtistiaeth, ac fe ddisgrifiodd y berthynas gyda Miss Lewis fel "cymhleth".
Wrth ddedfrydu Weeks i wyth mlynedd o garchar, dywedodd y Barnwr Jeremy Jenkins: "Fe wnaethoch chi gyflawni gweithred fileinig.
"Mae'n dristwch mawr i'r ymchwiliad brofi'n ormod i Miss Lewis."
Bydd Weeks hefyd yn gorfod cofrestru fel troseddwr rhyw am weddill ei oes.