Cannoedd yn dod i ddathlu bywyd Morgan Ridler

  • Cyhoeddwyd
gwasanaeth eglwys
Disgrifiad o’r llun,

Fe welwyd pobl yn gwisgo melyn ar y ffordd i eglwys St Catherine i ddathlu bywyd Morgan

Mae cannoedd o bobl wedi dod ynghyd yng Ngorseinon i gofio am fywyd Morgan Ridler, fu farw yn dair oed.

Bu farw Morgan fis diwethaf ar ôl cael diagnosis o fath prin o ganser yn 2021.

Fe ofynnodd ei rieni, Matt a Natalie, i bobl i wisgo melyn yn nathliad ei fywyd.

Roedd y gwasanaeth yn gallu cael ei glywed ar seinyddion o amgylch Eglwys Sant Catherine fel bod galarwyr ar y stryd yn gallu clywed y gwasanaeth.

Roedd bwâu melyn a rhubanau hefyd ar hyd y stryd.

Yn ystod y gwasanaeth fe ganwyd Stop Crying Your Heart Out gan Oasis, a darllenwyd cerdd o'r enw Love Wins, a ysgrifennwyd gan fodryb Morgan, Victoria.

Ffynhonnell y llun, Family photos
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Morgan ddiagnosis o fath prin o ganser yn 2021 pan oedd yn ddwy oed

'Y deyrnged orau'

Fe ddywedodd tad Morgan fod ei fab wedi cael "ei garu'n ddiamod" yn ystod ei fywyd byr.

"Dim ots beth wnaeth Morgan ei wynebu," meddai, "roedd bob amser yn gwenu."

Ychwanegodd fod gan Morgan gariad arbennig at ei chwaer fach Rhiannon, ac fe wnaeth y ddau ffurfio cysylltiad arbennig ar ward yr Enfys yn Ysbyty Plant Arch Noa.

Aeth ymlaen i ddweud: "Er mai byr ac anodd oedd bywyd Morgan, fe wnaeth gofleidio bywyd a chreu byddin o bobl i sicrhau na fydd unrhyw un yn cael brwydr unig wrth wynebu canser mewn plentyndod.

"Dyna'r deyrnged orau allai fod i Morgan."

Bydd gwasanaeth yn cael ei gynnal yn stadiwm Swansea.com yn ddiweddarach.

Cyffwrdd â chalonnau pawb

Bu elusen Dreams and Wishes yn gweithio gyda theulu Morgan gan drefnu taith diwrnod iddo mewn injan dân ac awyren.

Dywedodd Wendy Hobbs, gwirfoddolwr o'r elusen: "Roedd yn emosiynol iawn. Mae Morgan wedi cyffwrdd â chalonnau pawb yn y gymuned yma. Mae wedi dod â phobl at ei gilydd a dangos beth yw hyder.

"Roedd yn anhygoel i wybod ein bod wedi rhoi profiadau arbennig i Morgan a'i deulu."

Dywedodd y Parchedig Dr Adrian Morgan, ficer Gorseinon: "Mae heddiw yn naturiol yn ddiwrnod trist iawn. Mae'n ddiwrnod trasig am i fywyd Morgan gael ei dorri'n llawer rhy fyr.

"Efallai ei fod wedi colli ei frwydr gyda chanser, ond nid yw wedi'i ddiffinio gan y canser hwnnw.

"Roedd ei fywyd yn fyr ond yn llawn iawn, a heddiw mae llawer o gyfleoedd wedi bod i ddathlu ei fywyd hynod."

Ychwanegodd: "Mae wedi bod yn anhygoel. Dywedodd mam Morgan fod dros 100,000 o bobl wedi gwylio ar y llif byw.

"Mae hyn yn dystiolaeth o'r ffaith fod Morgan, yn ystod ei fywyd byr, wedi cyffwrdd â bywydau pobl yn ei gymuned, pobl ar draws y wlad ac o amgylch y byd."

Pynciau cysylltiedig