Abertawe: Carcharu tad gymrodd gosb gyrru mab cyn gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd
Dewi GeorgeFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cadarnhaodd cyflogwr Dewi George ei fod yng Nghaerdydd adeg y goryrru ym mis Chwefror 2022

Mae dyn wedi cael ei ddedfrydu i bedwar mis o garchar ar ôl cyfaddef iddo dderbyn pwyntiau ar ran ei fab am oryrru.

Fe gyfaddefodd Dewi George, 44, i'r drosedd yn Abertawe er ei fod yn gweithio yng Nghaerdydd ar y pryd.

Digwyddodd hyn dri mis cyn gwrthdrawiad arall yn ymwneud â'i fab lle bu farw dau o bobl.

Er bod George yn gwybod hynny, dywedodd y barnwr bod y diffynnydd wedi "parhau i esgus" ar ran ei fab 17 oed.

Mab 'heb ei gosbi'

Ar 28 Chwefror 2022 fe ddaliodd gamera cyflymder yr heddlu ddelweddau o gar Alpha Romeo yn goryrru ar Ffordd Y Cocyd yn Abertawe.

Dywedodd bargyfreithiwr yr erlyniad, Sian Cutter, wrth y llys nad oedd modd adnabod y dyn y tu ôl i'r llyw yn glir, oherwydd bod y "ddelwedd yn niwlog".

Fodd bynnag, fe gyfaddefodd Dewi George i'r drosedd, gan dderbyn cwrs ymwybyddiaeth cyflymder fel cosb.

"Ond doedd hyn ddim yn bosib" meddai'r erlyniad wrth i gofnodion ANPR a chyflogwr y diffynnydd gadarnhau ei fod yn y gwaith yng Nghaerdydd ar y pryd "felly na allai fod ger Ffordd Cockett" yn Abertawe.

Ffynhonnell y llun, Google Streetview
Disgrifiad o’r llun,

Roedd ymchwiliadau'r heddlu'n dangos bod mab Dewi George yn ardal Ffordd Y Cocyd ar ddiwrnod y goryrru

Dangosodd ymchwiliadau diweddarach gan yr heddlu bod ei fab "yng nghyffiniau'r camera cyflymder am 12:05 y diwrnod hwnnw".

Pan gyfaddefodd George i'r drosedd dywedodd wrth swyddogion mai "dim ond newydd basio ei brawf yr oedd ei fab" ac felly ei fod "yn poeni y byddai ei fab yn cael ei wahardd rhag gyrru".

Yn annerch y llys yn Abertawe, a oedd dan ei sang ac yn cynnwys teulu a ffrindiau, dywedodd y Barnwr Thomas KC fod hyn yn golygu nad oedd ei fab "wedi ei gosbi mewn unrhyw ffordd".

'Ni ddysgodd unrhyw wers'

Ychydig fisoedd yn ddiweddarach ar 31 Mai, 2022, meddai'r barnwr, "roedd gan eich mab dri teithiwr rhwng 16 ac 17 oed yn ei gar" pan fuodd y car hwnnw mewn gwrthdrawiad ger gorsaf betrol yn Llandeilo Ferwallt.

"Yn drasig bu farw dau berson ifanc ac anafwyd trydydd un yn ddifrifol," meddai'r Barnwr Thomas KC.

"Er nad ydw i'n gwneud unrhyw ragdybiaethau am y digwyddiad hwnnw, rhaid i ddicter teuluoedd y plant hynny fod yn aruthrol, ac os ydyn nhw'n gweld cysylltiad rhwng y ddau ddigwyddiad, pwy all eu beio.

"Ni ddysgodd unrhyw wers heblaw y byddai ei dad yn dweud celwydd drosto, ac o fewn tri mis roedd y tu ôl i olwyn yr Alpha Romeo hwnnw pan gollodd dau berson ifanc eu bywydau.

"Oni bai am hynny, byddai eich twyll wedi mynd heibio heb i neb sylwi."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y barnwr ei fod yn credu bod edifeirwch Dewi George yn "ddiffuant"

Roedd aelodau o deuluoedd y dioddefwyr yn crio yn yr oriel gyhoeddus wrth i'r barnwr annerch Dewi George yn y doc, gan ddweud "hyd yn oed ar ôl i chi gael gwybod bod dau berson ifanc wedi marw, fe wnaethoch chi barhau i gymryd arnoch mai chi oedd y gyrrwr".

Wrth ddedfrydu, cymerwyd i ystyriaeth llythyr at y barnwr gan Dewi George, ynghyd â'r ffaith ei fod wedi pledio'n euog yn y llys ar 21 Gorffennaf 2023.

Dywedodd y Barnwr Thomas ei fod yn argyhoeddedig bod yr "edifeirwch yn ddiffuant" gan hefyd gydnabod yr effaith y byddai hyn yn ei gael ar ei deulu a oedd, yn ôl cyflwyniad George ei hun, yn teimlo ei fod wedi eu "gadael i lawr".

Gan ofyn iddo sefyll, dedfrydodd y Barnwr Thomas Dewi George i bedwar mis o garchar.

Trodd Dewi George at aelodau o'i deulu wrth iddo gael ei gludo i ffwrdd gyda'r barnwr yn annerch aelodau'r dioddefwyr yn uniongyrchol gan gynnig ei "gydymdeimlad diffuant" am "eu colled ofnadwy".

Pynciau cysylltiedig