Lluniau'r Sioe Frenhinol: Dydd Mawrth

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig

Roedd yr haul yn tywynnu yn Llanelwedd ar ail ddiwrnod y Sioe Frenhinol, ac unwaith eto fe ddaeth y torfeydd yn eu miloedd.

Dyma gasgliad o luniau o ddydd Mawrth yn y sioe.

Disgrifiad o’r llun,

Maisy-Rose o Gastell-paen, sydd ond ychydig filltiroedd o Lanelwedd, yn eistedd ar gefn beic cwad

Disgrifiad o’r llun,

Hwrdd Valais Blacknose o fferm Gerallt a Ceri Jones yn Waunfawr yn cael ei baratoi ar gyfer y cystadlu

Disgrifiad o’r llun,

Cyfle i roi'r byd yn ei le

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwartheg Highland wastad yn boblogaidd yn y Sioe

Disgrifiad o’r llun,

Jared Rosser a Leon Brown, chwaraewyr o ranbarth Dreigiau Gwent, yn cynnal sesiwn hyfforddi rygbi i blant

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jack, sy'n dair oed ac o Abertawe, wrth ei fodd â pheirianwaith

Disgrifiad o’r llun,

Dwy o'r merched a oedd yn cystadlu gyda'r bwyelli - efeilliaid a phencampwyr o'r Weriniaeth Tsiec

Disgrifiad o’r llun,

Ela Roberts o Lithfaen, Pen Llŷn, gyda'i heffar â enillodd yn ei chategori - heffar ifanc Gwartheg Duon Cymreig

Disgrifiad o’r llun,

Cyn-wythwr Cymru a'r Llewod, Scott Quinnell, yn rhoi cymorth mewn sioe goginio

Disgrifiad o’r llun,

Hwrdd ar y ffordd i wynebu'r beirniaid

Disgrifiad o’r llun,

Torf fawr yn gwylio'r cyffro o'r Brif Gylch

Disgrifiad o’r llun,

Henri a'i frawd mawr Gwilym o Lanarmon-yn-Iâl yn ymarfer diffodd tân

Disgrifiad o’r llun,

Cyflwynwyr Cyw yn perfformio'n fyw yn y Sioe, gyda'r plant yn gwirioni'n llwyr

Disgrifiad o’r llun,

Luned, sy'n saith oed, a'i brawd bach Dewi, sy'n bump, o Lanpumsaint yn rhoi cynnig ar odro

Disgrifiad o’r llun,

Sioe arbennig gan y Llu Awyr ar ddiwedd y prynhawn

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig