Gwrthdrawiad yn achosi oedi difrifol ger y Sioe Fawr
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn rhybuddio bod gwrthdrawiad yn debyg o achosi oedi difrifol ar yr A470 heb fod ymhell o Lanelwedd.
Dywedodd yr heddlu fod "swyddogion ar safle gwrthdrawiad ar yr A470 rhwng Erwyd a Llanfair-ym-Muallt - lle mae un car ar dân - yn dilyn galwad am 08:45 fore Mawrth".
Maen nhw'n cynghori gyrwyr i osgoi'r ardal yn llwyr.
Yn y cyfamser mae rhai wedi cysylltu gyda'r BBC i ddweud fod yr heddlu yn troi ceir i ffwrdd sy'n anelu tua'r gogledd am faes y Sioe Fawr.
Dywedodd un ei bod yn sownd ar y ffordd ac heb symud am awr.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.