Achub menyw oedd yn chwilio am barot yn Eryri

  • Cyhoeddwyd
achubiaeth y parotFfynhonnell y llun, Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen
Disgrifiad o’r llun,

Molly (yn y canol) gyda Jeckyll y parot ac aelod o'r tîm achub

Mae'n debyg fod pawb sy'n derbyn cymorth gan dîm achub mynydd yn ddiolchgar iddyn nhw, ond fel arfer dim ond pobl sy'n diolch yn bersonol.

Ond wrth i Dîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen fynd i gynorthwyo menyw ar Glyder Fawr ddydd Llun, daeth parot y ddynes i'w cyfarch gyda "Helo" swnllyd.

Roedd perchennog yr aderyn - Molly - yn un o griw o Sir Derby oedd wedi mynd â'u hadar i'r ardal er mwyn iddyn nhw gael hedfan yn rhydd a chael ychydig o ymarfer corff ac awyr iach.

Ond wrth iddyn nhw wneud hynny, daeth hebogiaid glas yr ardal heibio a chodi braw ar y parotiaid ac i ffwrdd â dau ohonyn nhw.

Daeth un i'r fei yn fuan, ond aeth Molly i fyny'r mynydd i chwilio am y llall - o'r enw Jeckyll - cyn sylweddoli ei bod wedi dringo'n rhy bell a'i bod yn sownd.

Galwodd am gymorth, ac fe wnaeth Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen ddod o hyd iddi drwy ddefnyddio ffonau symudol.

Ffynhonnell y llun, Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen

Eglurodd Chris Lloyd, cadeirydd y tîm: "Fe ddaethon ni o hyd iddi yn uchel uwchlaw Cwm Idwal, ychydig yn is na Glyder Fawr."

Erbyn iddyn nhw ei chyrraedd roedd Jeckyll wedi ymuno â hi, ac wrth i aelodau'r tîm fynd at y ddau, fe ddaeth yr ebychiad "Helo" yn hapus braf.... gan y parot.

Cafodd y ddau eu cludo i ddiogelwch yn ddigon buan ac ymuno gyda gweddill y criw adarwyr.

Ffynhonnell y llun, Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen
Disgrifiad o’r llun,

Un arall o'r criw gyda dau barot arall

"Roedd Jeckyll yn hapusach fyth pan gafodd wledda ar cereal bar gan un o'r tîm," ychwanegodd Chris Lloyd.

Er ei bod yn gyfnod prysur iawn i'r tîm ar hyn o bryd, dywedodd hefyd fod Molly wedi gwneud y peth iawn yn galw am gymorth.

"Roedd wedi canfod ei hun mewn lleoliad peryglus iawn," meddai.