Gwesty lloches: Gohirio cais am orchymyn llys
- Cyhoeddwyd
Mae barnwr yn yr Uchel Lys wedi gohirio penderfyniad ar gais am orchymyn llys gan berchnogion gwesty sydd wedi'i glustnodi i gartrefu ymgeiswyr lloches yn Llanelli.
Dywedodd y barnwr ei fod wedi derbyn negeseuon gan nifer o drigolion sy'n byw gerllaw Gwesty Parc y Strade.
Mae Gryphon Leisure, perchnogion y gwesty, am i'r Barnwr Roger ter Haar gyhoeddi gorchymyn dros dro ar frys i atal pobl rhag tresmasu neu brotestio ar y safle.
Yn y gwrandawiad Uchel Lys yn Llundain ddydd Mawrth, dywedodd y barnwr ei fod wedi derbyn nifer o negeseuon personol, a bod "yn amlwg deimladau cryfion yn lleol".
Ychwanegodd y barnwr ei fod am i'r bobl oedd wedi ei e-bostio gael y cyfle i fynd i'r llys a chael y cyfle i wneud datganiadau.
Dywedodd hefyd y dylai cyfreithwyr perchnogion y gwesty gael y cyfle i ystyried barn y trigolion, a'i fod felly am ystyried yr achos ddydd Iau.
Dywedodd y Barnwr ter Haar: "Rwyf wedi derbyn nifer o e-byst gan drigolion lleol.
"Mae'r rhai sydd wedi ysgrifennu ataf yn mynegi'u hunain yn dda ac yn ymwybodol o bryderon lleol."
Roedd cyfreithwyr Gryphon wedi dweud wrtho fod protestwyr yn erbyn cartrefu ymgeiswyr lloches dros dro yn y gwesty.
Fe ddywedon nhw fod protestio wedi cychwyn yn gynnar ym mis Mehefin, a bod protestwyr wedi bod yn arddangos sloganau "hiliol a sarhaus" ac yn chwifio baneri'r Undeb a Chymru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2023