Perchnogion gwesty lloches yn mynd i'r Uchel Lys
- Cyhoeddwyd
Mae perchnogion gwesty yn Llanelli sydd i fod i gartrefu 240 o geiswyr lloches yn bwriadu gwneud cais i'r Uchel Lys ddydd Mawrth am orchymyn cyfreithiol i atal protestwyr rhag mynd ar dir y gwesty, neu atal mynediad i'r safle.
Mae Gryphon Leisure Cyf. sydd â'i bencadlys yn Billericay, Essex, yn mynd i ofyn am bwerau i atal ymgyrchwyr rhag tresmasu ac atal mynediad i'r gwesty.
Roedd ceiswyr lloches i fod i symud i mewn i Westy Parc y Strade ar 10 Gorffennaf, ond mae'r cynlluniau wedi eu hatal gan brotestwyr hyd yn hyn.
Mae 95 o staff y gwesty wedi cael eu diswyddo er mwyn i'r cynllun lloches fynd yn ei flaen.
Mae Grwp Ymgyrchu Ffwrnes wedi galw ar bobl i gefnogi cronfa ar-lein i ariannu achos cyfreithiol yn sgil y cais i'r Uchel Lys.
Ceisio am bwerau helaeth
Yn ôl dogfennau sydd wedi eu cyflwyno i'r Uchel Lys, mae'r perchnogion yn gofyn am orchymyn yn erbyn nifer o "bersonau anhysbys" a rhai unigolion sydd wedi eu henwi ac sy'n byw yn agos i'r gwesty.
Maen nhw'n honni bod gan y perchnogion hawl i ddefnyddio'r fynedfa ond doedd hi ddim yn bosib, serch hynny, i ddarganfod perchnogion y fynedfa yn ôl dogfennau'r Gofrestrfa Tir.
Y gred yw bod perchnogion y gwesty wedi medru defnyddio'r fynedfa yn "ddirwystr a heb daliadau" am 23 o flynyddoedd.
Mae'r perchnogion yn gwneud cais am bwerau helaeth i atal protestwyr rhag mynd ar dir y gwesty, atal mynedfeydd, rhwystro pobl rhag mynd a dod, atal traffig, gadael cerbydau neu clymu eu hunain i'r gwesty neu wrthrychau ar y safle.
Yn ôl Grŵp Gweithredu Ffwrnes, mae cwmni Gryphon Leisure wedi "pigo ar bobl leol diniwed" ac mae gan rhai o'r trigolion lleol "broblemau iechyd difrifol."
Maen nhw'n gobeithio codi £10,000 ar-lein i ariannu achos cyfreithiol i "amddiffyn yr ymgyrch".
'Niwed, difrod ac oedi'
Dengys y dogfennau bod y perchnogion wedi "cytuno ar lafar" gyda chwmni Clearsprings ym mis Mawrth 2023 i roi llety i geiswyr lloches yn y gwesty,.
Fe grewyd cytundeb â'r cwmni i ddarparu llety i'r ceiswyr lloches am 90 diwrnod i gychwyn ar y 10fed o Orffennaf. Mae'r perchnogion yn honni bod yna ymgyrch fygythiol wedi bod gan ymgyrchwyr i rwystro hynny, gan gynnwys:
Ymddygiad bygythiol i atal perchnogion rhag gadael y gwesty ar y 7fed o Orffennaf;
Difrodi teiars ar gerbydau oedd yn berchyn i'r perchnogion;
Bygwth staff a chontractwyr;
Taenu baw dynol ar gerbydau yn berchen i'r perchnogion, staff neu gontractwyr.
Maen nhw'n honni hefyd bod ymddygiad y protestwyr yn peri "niwed, difrod ac oedi" i'r perchnogion ac mae ceiswyr lloches mewn perygl o fod yn ddigartref oherwydd y gweithredu.
Mae'r dogfennau yn honni bod y perchogion "mewn perygl o fynd yn fethdalwr" wrth fethu â chwrdd ag amodau'r cytundeb gyda Clearsprings.
Onibai am ymyrraeth y llys fe fydd y "protestwyr yn parhau i weithredu yn y ffordd yma".
Mae'r ddogfen 193 tudalen yn cynnwys lluniau o'r protestwyr a phlacardiau tu allan i'r gwesty.
Fe fydd yr achos yn cael ei glywed gan Is-adran Mainc y Brenin yn yr Uchel Lys.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2023