Cyngres Ewropa: Gêm gyfartal i'r Seintiau Newydd

  • Cyhoeddwyd
Y SeintiauFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y Seintiau Newydd 1-1 Swift Hesperange

Mae'r Seintiau Newydd wedi rhoi hwb i'w gobeithion gyda gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Swift Hesperange yn ail rownd ragbrofol Cyngres Ewropa nos Fawrth.

Wedi'r siom o golli yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr wythnos ddiwethaf roedd hi'n dalcen caled hyd yn oed cyn i'r gêm yn erbyn pencampwyr Lwcsembwrg ddechrau, gan fod nifer o chwaraewyr y Seintiau yn absennol gydag anafiadau.

Ond fe wnaeth gôl yn yr ail hanner gan Rory Holden ddod â'r Seintiau'n gyfartal, wedi i Simão Carvalho Martins rwydo i Swift Hesperange yn yr hanner cyntaf.

Cyn iddyn nhw unioni'r sgôr roedd y Seintiau'n ddiolchgar i'w golwr Connor Roberts am eu cadw nhw ynddi, wrth iddo arbed cic o'r smotyn Dominik Stolz.

Bydd yr ail gymal yn Stade de Luxembourg nos Fawrth, 1 Awst, gyda'r enillwyr dros ddau gymal yn wynebu naill ai FC Struga o Ogledd Macedonia neu Budućnost Podgorica o Montenegro yn y rownd nesaf.

Mae Hwlffordd dal yn Ewrop hefyd, ac fe fyddan nhw'n chwarae eu cymal cyntaf yn ail rownd ragbrofol Cyngres Ewropa nos Iau, yn erbyn B36 Torshavn o Ynysoedd y Ffaro.

Pynciau cysylltiedig