Edrych eto ar dystiolaeth llofruddiaethau Llanhari 1993

  • Cyhoeddwyd
Poster heddlu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Harry a Megan Tooze eu llofruddio ym 1993

Mae Heddlu De Cymru yn gobeithio y bydd adolygiad o dystiolaeth fforensig yn eu helpu i ddod o hyd i bwy bynnag oedd yn gyfrifol am lofruddiaethau Llanhari union 30 mlynedd yn ôl.

Cafodd Harry a Megan Tooze, a oedd yn eu chwedegau, eu saethu'n farw yn eu ffermdy, Tŷ ar y Waun, ger Llanhari yn Rhondda Cynon Taf ar 26 Gorffennaf 1993.  

Mae Huw Griffiths yn gyn-dditectif sydd nawr yn gweithio ar ymchwiliadau mawr gyda Heddlu De Cymru.

Dywedodd: "Byddwn ni'n edrych ar beth sydd gyda ni ac yn canolbwyntio ar y pethau byddwn ni a'r gwyddonwyr yn meddwl sydd â fwya' o obaith o'n helpu ni i ddarganfod pwy laddodd Harry a Megan.

"Dyw Heddlu De Cymru ddim yn mynd i roi fyny tan fod rhywun yn cael eu ffindo'n euog o'r llofruddiaethau yma. Ni moyn dod â chyfiawnder i Harry, Megan a'r teulu".

Fferm
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y pâr eu saethu ar eu fferm ger Llanhari

Ar y diwrnod hwnnw roedd y cwpwl wedi bod yn siopa bwyd cyn i Harry Tooze alw yn swyddfa bost y pentref i gasglu ei bensiwn. Am 13:30 clywodd gymydog ddau ergyd gwn ond wnaeth e ddim meddwl fod hynny'n anarferol.

Roedd Cheryl, eu merch yn byw yn Lloegr a byddai'n ffonio bob nos, ond y noson honno doedden nhw ddim yn ateb y ffôn. Fe ofynnodd hi i gymydog i fynd draw atyn nhw. Doedd dim golwg ohonyn nhw felly awgrymodd y cymydog y dylai Cheryl ffonio'r heddlu. 

Pan gyrhaeddodd yr heddlu'r fferm fe ddaethon nhw o hyd i gyrff y ddau wedi eu cuddio yn y beudy. Roedd y ddau wedi eu saethu.

Cafodd Jonathan Jones, dyweddi Cheryl ei garcharu yn dilyn achos llys ym 1995 ond cafodd ei ryddhau ar apêl flwyddyn yn ddiweddarach. Fe briodon nhw ac maen nhw dal gyda'i gilydd.

Jonathan Jones
Disgrifiad o’r llun,

Carcharwyd Jonathan Jones ond cafodd ei ryddhau ar apêl flwyddyn yn ddiweddarach

Bu'r newyddiadurwraig Bethan Williams yn gohebu ar yr achos gwreiddiol.

"Mi wnaeth yr heddlu benderfynu yn eitha' buan bod Harry a Megan Tooze yn 'nabod eu llofrudd neu'n disgwyl iddo alw draw a'r dystiolaeth oedd 'di arwain at hynny oedd bod y llestri gorau wedi eu gosod allan a bod yna grys glân i Harry ar y gwely oedd yn awgrymu eu bod nhw naill ai'n disgwyl ymwelydd neu rywun oedden nhw'n nabod. Dyna pam aethon nhw ar ôl Jonathan.

"O ran person, roedd o'n ddyn tawel, poleit, tal iawn, doedd e ddim yn taro chi fel rhywun fydde wedi gallu llofruddio a llusgo'r cyrff i'r beudy drws nesa.

"O'n i wedi synnu ei fod e wedi ei gael yn euog gan nad oedd yna dystiolaeth uniongyrchol," meddai.

Cheryl Tooze a Jonathan Jones
Disgrifiad o’r llun,

Cheryl a Jonathan yn angladd Harry a Megan Tooze

30 mlynedd yn ddiweddarach mae'r heddlu'n dal i obeithio y bydd modd dod o hyd i bwy bynnag oedd yn gyfrifol.

"Mae pobl yn byw'n hirach," meddai Huw Griffiths. "Mae gobaith, bod ta pwy laddodd Harry a Megan dal yn fyw.

"Er bod amser wedi mynd falle bod pobl mas fan 'na â tamaid bach o wybodaeth falle bod nhw ddim yn meddwl bod e'n bwysig iawn ond i ni mae e'n gallu gwneud gwahaniaeth mawr. Falle alle hwnna fod yn help i ni gyda'r ymchwiliad.

"Mae pethe'n datblygu bob dydd o safbwynt technoleg fforensig. Ni'n gobeithio, wrth edrych yn graff ar beth sydd gyda ni fyddwn ni'n gallu gweld yn gwmws pwy laddodd Harry a Megan."