Darganfod corff wrth chwilio am ddynes, 85

  • Cyhoeddwyd
Ann JonesFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd teulu Ann Jones yn bryderus ei bod yn ceisio mynd i ardal Cross Inn yng Ngheredigion, lle cafodd ei magu

Mae plismyn sydd wedi bod yn chwilio am ddynes ar goll o'r Bont-faen wedi cadarnhau eu bod wedi darganfod corff.

Roedd Ann Jones, 85, a oedd yn cael ei hadnabod fel Nans, yn byw gyda dementia ac wedi bod ar goll ers ddydd Gwener.

Roedd Heddlu De Cymru wedi apelio am wybodaeth yn dilyn ei diflaniad, gyda'i theulu'n bryderus ei bod yn ceisio mynd i ardal Cross Inn yn ne Ceredigion, lle cafodd ei magu.

Ond ddydd Mercher daeth cadarnhad fod corff dynes wedi ei ddarganfod, er nad yw wedi ei adnabod yn ffurfiol eto.

Mae teulu Ann Jones wedi eu hysbysu o'r datblygiad.

Pynciau cysylltiedig