Trafnidiaeth Cymru yn ennyn cwynion am wasanaethau Cymraeg y llywodraeth
- Cyhoeddwyd
Roedd dros draean y cwynion am gydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru gyda safonau'r Gymraeg dros y flwyddyn ddiwethaf yn ymwneud â gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru.
Fe wnaeth gweinidogion gymryd rheolaeth dros redeg rhwydwaith rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru o ddydd i ddydd ym mis Chwefror 2021.
Roedd yr 13 cwyn ar y pwnc hwnnw yn cynnwys diffyg gwasanaeth yn Gymraeg ar rif llinell canolfan alw, a diffyg gwasanaethau Cymraeg (cyhoeddiadau, gwybodaeth ar docyn, arwyddion electroneg) ar drên neu mewn gorsaf drên.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod Trafnidiaeth Cymru "wedi gweithio i wella'r gwasanaethau dwyieithog a ddarperir i gwsmeriaid sy'n defnyddio gwasanaethau rheilffyrdd".
Ymhlith y camau a gymerwyd gan Drafnidiaeth Cymru, meddai'r llywodraeth, y mae:
Creu rôl pennaeth strategaeth y Gymraeg;
Sicrhau bod gan bob un o'r fflyd newydd systemau sy'n arddangos ac yn darparu gwybodaeth (cyhoeddiadau ac arwyddion electroneg) yn ddwyieithog;
Recriwtio chwech aelod o staff, sydd yn siarad Cymraeg, i "chwarae rhan ganolog yn yr ystafell reoli integredig";
Gosod baner sblash newydd ar brif wefan Trafnidiaeth Cymru sy'n cyfeirio siaradwyr Cymraeg i'w thudalennau Cymraeg. Mae'r faner yn darllen, 'Shw'mae. Siarad Cymraeg? Ewch i'r safle Cymraeg';
Cynnal "uwchraddiad sylweddol" i sgriniau gwybodaeth cwsmeriaid yng ngorsafoedd Caerdydd Canolog a Wrecsam Cyffredinol, gan "arddangos cynnwys cwbl ddwyieithog".
36 cwyn
Daeth 32 o'r cyfanswm o 36 cwyn i law'r llywodraeth oddi wrth swyddfa Comisiynydd y Gymraeg - ond nid cwynion gan y Comisiynydd oedden nhw - a'r lleill yn uniongyrchol gan aelodau o'r cyhoedd.
Esboniodd y llywodraeth bod ymchwiliad yn parhau i nifer ohonynt, gan ychwanegu bod "camau eisoes wedi'u cymryd i ddatrys" sawl mater, gan gynnwys "testun anghyflawn ar dudalennau Cymraeg gwefan a gynhelir gan drydydd parti", ac "ymateb Saesneg wedi'i dderbyn i e-bost Cymraeg gan drydydd parti".
Penderfynwyd peidio ag ymchwilio i un o'r cwynion, sef "arwydd ffordd yn dangos enw lle yn Saesneg yn unig" - a hynny, meddai'r llywodraeth, oherwydd bod "yr arwydd wedi'i chodi cyn 2016".
Dyna'r flwyddyn y gosodwyd hysbysiad cydymffurfio gan Gomisiynydd y Gymraeg ar weinidogion Cymru, sy'n rhestru'r safonau sy'n berthnasol i'w gweithgareddau, dolen allanol.
Y flwyddyn hyd at haf eleni oedd y seithfed o weithredu safonau'r Gymraeg o fewn Llywodraeth Cymru, yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
Esboniodd llefarydd ar ran y Comisiynydd bod gan y swyddfa ddyletswydd i "ymchwilio i fethiannau i gydymffurfio â safonau'r Gymraeg, gan osod camau gorfodi os oes angen", yn unol â'u polisi gorfodi, dolen allanol.
'Gwaith sylweddol i'w wneud'
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cydnabod bod "gwaith sylweddol i'w wneud" i weithredu ei strategaeth fewnol ar ddefnyddio'r Gymraeg - 'Cymraeg. Mae'n perthyn i ni i gyd, dolen allanol'.
Gweledigaeth Llywodraeth Cymru yn y strategaeth yw dod yn "sefydliad gwirioneddol ddwyieithog erbyn 2050, sy'n golygu y bydd y Gymraeg a'r Saesneg yn cael eu defnyddio'n naturiol ac yn gyfnewidiol fel ieithoedd gwaith y llywodraeth".
Er mwyn cyflawni hyn, ei bwriad yw y bydd holl staff Llywodraeth Cymru "yn gallu deall y Gymraeg, o leiaf, erbyn 2050".
Mae'r llywodraeth o'r farn "bod yn rhaid i'r camau a gymerir i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg fod yn rhesymol ac yn gymesur".
"Felly, bydd dod yn sefydliad dwyieithog yn golygu newid graddol," meddai.
Yn yr uwch wasanaeth sifil ar hyn o bryd, mae 22% o staff yn dilyn opsiwn hyfforddi ffurfiol ar gyfer dysgu Cymraeg.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod hynny yn "arwydd bod ein gwaith i sicrhau fod arweinyddiaeth y sefydliad yn deall ei rôl wrth fodelu ymddygiad enghreifftiol mewn perthynas â'r Gymraeg, yn dwyn ffrwyth".
Un o egwyddorion y llywodraeth yw "parhau i fod yn sefydliad agored, cynhwysol ac amrywiol".
"Mae gan bawb y potensial i fod yn siaradwr Cymraeg, ac nid yw'r strategaeth hon yn groes i'n hymrwymiad i fod yn agored, yn gynhwysol ac yn amrywiol," meddai llefarydd.
"Er y bydd sgiliau Cymraeg yn fwyfwy angenrheidiol ar gyfer nifer cynyddol o swyddi, nid yw meithrin gweithle dwyieithog yn golygu (nac yn awgrymu) bod y sgiliau hynny'n ofynnol ar gyfer ymuno â Llywodraeth Cymru."
'Calonogol'
Yn y flwyddyn hyd at Ebrill 2023 roedd cyfanswm o 613 o weithlu'r llywodraeth yn cael hyfforddiant yn y Gymraeg, sy'n gynnydd o 247 ers y llynedd.
Ychwanegodd Llywodraeth Cymru bod y canlyniadau hyn yn "galonogol", ac yn dangos bod staff yn "deall y pwyslais newydd sy'n cael ei roi ar yr iaith a phwysigrwydd dysgu".
"Mae'n ymddangos hefyd ei fod yn mynd yn groes i duedd negyddol a welwyd mewn rhai sefydliadau sector cyhoeddus eraill, sydd wedi nodi gostyngiad yn nifer y dysgwyr ers dechrau'r pandemig."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2022