Eisteddfod 2023: Cyflwyno Gwobr Goffa Daniel Owen

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Medal
Disgrifiad o’r llun,

Mae Medal Gwobr Goffa Daniel Owen yn cael ei rhoi am nofel gyda llinyn storïol cryf heb fod yn llai na 50,000 o eiriau

Seremoni Gwobr Goffa Daniel Owen fydd prif ddefod llwyfan y Pafiliwn Mawr yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ddydd Mawrth.

Mae'r wobr yn cael ei rhoi am nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf heb fod yn llai na 50,000 o eiriau.

Os fydd teilyngdod, bydd y nofelydd buddugol yn ennill medal a £5,000 yn rhoddedig gan Grŵp Cynefin.

Y beirniaid eleni yw Sioned Wiliam, Mared Lewis a Dewi Prysor.

Meinir Pierce Jones oedd enillydd y wobr hon yn Eisteddfod Ceredigion 2022 am ei nofel 'Capten' - fe ddaeth hi i'r brig mewn cystadleuaeth o 14 ymgais.

Dywedodd un o'r beirniaid, Manon Steffan Ros, ei bod yn "chwip o nofel" a bod safon y gystadleuaeth yn uchel drwyddi draw ond doedd y tri beirniad ddim yn gwbl gytûn.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Ysgrifennodd Meinir Pierce Jones ei nofel fuddugol - 'Capten' - yn ystod y cyfnod clo

Mae nofelau'r Eisteddfod Genedlaethol yn boblogaidd gan ddarllenwyr ac yn hwb enfawr i'r diwydiant llyfrau yng Nghymru.

Ym mis Chwefror 2021 dywedodd y Cyngor Llyfrau bod colli cyfrolau'r Eisteddfod - Y Rhaglen, Y Cyfansoddiadau, Y Fedal a'r Daniel Owen wedi costio oddeutu £100,000 i'r diwydiant llyfrau - yn ei gyfanrwydd yn 2020 yn sgil y pandemig.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Llyfrau
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyfansoddiadau buddugol yr Eisteddfod Genedlaethol ymhlith y llyfrau mwyaf poblogaidd

Fe fydd y seremoni yn cael ei chynnal am 16:30 - fydd yr orsedd ddim yn rhan o'r seremoni.

Yn ystod y seremoni fe fydd cyfraniadau gan Driawd y Lôn Goed, Triawd Plant yr Hwch a Chôr Plant Gwasanaeth Cerdd Gwynedd a Môn.

Pynciau cysylltiedig