'Tai rhent arswydus na ddylai neb orfod byw ynddynt'
- Cyhoeddwyd
"Mae gen i woodworm, mae gen i leithder a llwydni ar hyd y ffenestri, mae gen i un ffenest sy' ddim yn agor, ac mae gen i ddwy ffenest sy' wedi cracio."
I Catrin [nid ei henw iawn], sy'n 28 oed ac yn byw yn Rhondda Cynon Taf, hir yw'r rhestr o bethau sydd angen eu trwsio yn ei chartref rhent preifat.
Dywed y fam i ddau nad yw'n gwybod beth i'w wneud.
Mae'r landlord, meddai hi, wedi anwybyddu ei cheisiadau i drwsio a chynnal a chadw'r tŷ ers blynyddoedd - er gwaethaf derbyn hysbysiad swyddogol i wella gan Iechyd Amgylcheddol.
Yn ystafell wely ei merch mae ffrâm bren y ffenest yn edrych yn bwdr a'r gwydr yn rhydd, gyda Catrin yn ofni am ddiogelwch ei phlentyn.
"Mae'n rhaid i mi gadw ei llen ar gau i wneud yn siŵr nad yw hi'n mynd at y ffenest," meddai.
"Felly dyw hi ddim hyd yn oed yn gallu edrych allan o'i ffenest ei hun."
'Mae fy merch byth a hefyd yn sâl'
Ymysg y problemau eraill, mae llwydni ar y nenfwd yn yr ystafell ymolchi, ac mae unedau cegin llaith yn golygu nad yw hi'n gallu storio bwyd.
Cred Catrin yw fod cyflwr y tŷ yn cael effaith negyddol ar iechyd ei theulu.
"Mae fy merch byth a hefyd yn sâl, yn enwedig yn y gaeaf. Wrth gwrs mae plant yn mynd yn sâl yn y gaeaf, ond mae i'w gweld yn lawer gwaeth gyda'r oerfel yn dod drwy'r ffenest.
"Dwi wedi bod yn bryderus ers blynyddoedd beth bynnag, ond mae hyn wedi cael effaith arna i, mae wedi gwneud pethau'n waeth."
Dyw ei phlant methu gwneud pethau arferol fel cael ffrindiau draw i chwarae, meddai.
Dywedodd landlord Catrin wrth y BBC ei bod hi'n anodd talu i atgyweirio'r tŷ tra bod y tenant ar ei hôl hi gyda'r rhent. Ni wnaethant herio'r disgrifiad o gyflwr y tŷ.
Dywedodd Catrin nad oedd hi wedi talu rhent yn llawn oherwydd y diffyg atgyweirio.
Mae'r BBC ar ddeall fod derbynwyr bellach wedi'u penodi i'r tŷ, a'u bod yn ymwybodol o'r gwaith sydd angen gwneud.
'Roedd gen i lygod mawr'
Mae Jade Davies, 32, yn byw gyda'i dau fab yn Nhrealaw.
Ym mis Hydref cafodd sioc o ddarganfod trwy'r newyddion lleol bod ei landlord wedi cael ei garcharu.
Pan ddechreuodd pethau fynd o chwith yn yr eiddo, dywedodd iddi ddarganfod nad oedd ganddi "neb i droi ato".
"Mae gen i broblem lleithder, mae fy mwyler yn gollwng, mae gen i dyllau yn fy nho, ac roedd gen i lygod mawr, ac rydw i wedi talu amdanyn nhw i gael eu tynnu i ffwrdd."
Mae Jade wedi rhoi cynnig ar bob sefydliad y gall feddwl amdano a allai helpu.
"Maen nhw newydd ddweud wrtha i nad ydyn nhw erioed wedi clywed am hyn o'r blaen, ei fod wedi mynd i'r carchar a dwi wedi cael fy ngadael ar fy mhen fy hun."
'Dim ffordd allan'
Mae hi'n dweud ei bod hi'n teimlo "yn sownd" ac "yn methu â gweld ffordd allan mewn gwirionedd.
"Alla i ddim codi a gadael yma oherwydd i bwy fyddwn i'n rhoi'r allweddi?" dywedodd.
"Dwi just yn hwylio ar ben fy hun a dweud y gwir, yn mynd yn ôl ac ymlaen, ac o gwmpas.
"Yn llythrennol does dim help a does neb yn gwybod am y sefyllfa yma."
Dywed fod y lleithder yn "gwaethygu" a'i bod yn poeni am gael gaeaf arall yn yr eiddo.
"Pan gawn ni'r tywydd oer, dyna pryd y gallwch chi ei arogli mewn gwirionedd," ychwanega.
Mae'r BBC wedi ceisio cysylltu â landlord Jade.
'Gweithio yn erbyn pobl gyffredin'
Dywedodd Cymdeithas Genedlaethol Landlordiaid Preswyl (NRLA) fod y mwyafrif o landlordiaid yn unigolion cyfrifol ag yn darparu llety o ansawdd uchel.
Maent yn annog cynghorau i ddefnyddio'u pŵerau i daclo'r sawl sy' ddim yn cyrraedd y safon.
Yn ôl Aelod Seneddol y Rhondda, Chris Bryant, mae mwy a mwy o achosion fel un Catrin yn dod i'w sylw, gyda polisïau yn Llundain a Bae Caerdydd yn creu "storm berffaith".
Mae mwy a mwy o landlordiaid yn gwerthu oherwydd rheolau treth newydd a chyfraddau llog uchel, tra fod diffyg tai cymdeithasol ar yr un pryd.
O ganlyniad mae 'na bobl yn byw mewn "tai arswydus na ddylai neb orfod byw ynddynt," meddai.
"Mae'n teimlo fel bo' pob rhan o'r system yn gweithio yn erbyn pobl gyffredin," meddai.
Dylai'r ddwy lywodraeth gyfarfod er mwyn gweld be ellid ei wneud, ychwanegodd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae tai cymdeithasol yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni, fel yr adlewyrchir yn ein hymrwymiad i ddarparu 20,000 o gartrefi carbon isel i'w rhentu yn ystod tymor y llywodraeth hon."
Dywedodd Llywodraeth y DU: "Tra bod tai yn fater sy' wedi'i ddatganoli i Lywodraeth Cymru, rydyn ni'n darparu setliad of £18bn y flwyddyn, y swm uchaf erioed, i sicrhau eu bod yn cyflawni'r cyfrifoldeb hwn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mai 2022
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2022