'Pobl ag anableddau'n cael eu sarhau'n ddi-baid'
- Cyhoeddwyd
Mae pobl ag anableddau'n cael eu sarhau'n ddi-baid a dydy'r heddlu ddim yn barod i ymateb, yn ôl academydd sy'n wreiddiol o Wynedd.
Fe ddywedodd Dr Erin Pritchard - darlithydd a gafodd ei magu ym Mangor - bod llawer o bobl sydd â chyflwr corachedd fel hi yn tueddu i aros adref, yn hytrach na gorfod wynebu sylwadau milain pobl eraill.
Daw hyn wrth i ffigyrau newydd ddangos cynnydd o 130% mewn troseddau casineb anabledd rhwng 2017 a 2022.
Dim ond canran fechan o'r achosion yma - 3.7% - sy'n arwain at gyhuddiad neu wŷs, o'i gymharu â 12% o droseddau casineb yn gyffredinol.
Yn ôl Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu, mae 'na "waith i'w wneud" ond mae "mwy o ddioddefwyr nag erioed o'r blaen" yn adrodd eu profiadau.
Dywedodd y Swyddfa Gartref: "Rydym yn disgwyl i'r heddlu gymryd y troseddau atgas hyn wirioneddol o ddifri ac yn gweithio gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron i sicrhau bod troseddwyr yn cael eu herlyn a dioddefwyr yn cael cyfiawnder."
'Galw enwau, syllu, chwerthin'
Mae Dr Pritchard yn uwch ddarlithydd mewn astudiaethau anabledd ym Mhrifysgol Hope, Lerpwl, a chafodd ei geni â chorachedd, sy'n gyflwr prin ond cymharol adnabyddus.
O ddydd i ddydd, mae pobl â chorachedd yn cael eu dilorni, ym mhrofiad Dr Pritchard.
"Mae pobl wedi fy nghodi i oddi ar fy nhraed, ac eraill wedi fy ngwthio i'r naill ochr," esboniodd. "Y galw enwau, y syllu, y chwerthin... mae'n ddi-baid.
"Drwy'r amser mae pobl yn fy ngalw i'n midget a does 'na ddim pwynt riportio hyn achos fydd 'na ddim byd yn digwydd.
"Pob tro mae person efo corachedd yn mynd allan, mi fyddan nhw'n cael eu sarhau, ac felly mae llawer o bobl gyda chorachedd yn tueddu i aros adref."
Yn 2022, arweiniodd Dr Pritchard ymgyrch lwyddiannus i annog rhai cwmnïau sy'n cynhyrchu melysion 'Midget Gems' i newid yr enw, gan fod y gair midget yn "hynod sarhaus" i bobl â chorachedd.
Ond dydy pobl yn aml ddim yn ystyried bod termau o'r fath sy'n gysylltiedig ag anableddau yn sarhaus, yn ôl Dr Pritchard.
"Os wyt ti'n defnyddio geiriau penodol i sarhau rhywun o leiafrif ethnig, mae'n cael ei drin gyda mwy o ddifrifoldeb na chasineb tuag at bobl ag anableddau," meddai.
Dyna pam ei bod hi'n credu nad ydy troseddau casineb honedig yn cael eu hadrodd i'r heddlu cymaint ag y gallen nhw.
"Mae angen cydnabod llais y person anabl fel llais arbenigol, pan mae'n dod at riportio [troseddau casineb].
"'Da ni angen cydnabod pa dermau sy'n sarhaus a pha rai na ddylai gael eu defnyddio."
Cynnydd o 130%
Mae ffigyrau sydd wedi dod i law BBC Cymru yn dangos cynnydd o 130% mewn troseddau casineb ar sail anabledd dros bum mlynedd - o 399 yn 2017 i 899 yn 2022.
Ag eithrio troseddau honedig sy'n parhau dan ymchwiliad, cafodd 3,849 o droseddau casineb anabledd eu riportio i'r heddlu yng Nghymru yn ystod y cofnod hwn.
Fe arweiniodd 3.7% ohonyn nhw at gyhuddiad neu wŷs, sy'n llai na'r ganran ar gyfer troseddau casineb yn gyffredinol, sef 12%.
Mae'r ffaith fod cyn lleied yn cael eu herlyn yn "ddifrifol iawn" ac yn "poeni" gwasanaeth Cefnogaeth i Ddioddefwyr Cymru, yn ôl y rheolwr Tom Edwards.
"Y peth pwysig ydy ein bod ni'n edrych ar storïau positif hefyd, lle mae 'na ganlyniad positif wedi bod, ac i drafod profiadau pobl o fynd drwy'r system gyfiawnder," meddai.
"Ond mae 'na lot o waith i'w wneud, a lot o gynlluniau i'w gwneud hefyd i wella pethau i bobl sy'n cael eu heffeithio gan drais casineb."
Un sydd wedi cael cymorth drwy Cefnogaeth i Ddioddefwyr ydy Victoria - nid ei henw iawn - sy'n dod o dde Cymru ac sy'n rhannol ddall a byddar.
Dywedodd nad oedd hi wedi gadael y tŷ ers tair blynedd wedi i ddyn dieithr ymosod arni yn 2020.
"Mi ddechreuodd e fy llusgo i. Roedd e'n dweud pethau sarhaus am sut roedd e'n casáu pobl anabl… 'pam eich bod chi ar y ddaear 'ma?'
"Roeddwn i'n gwybod ei fod e mo'yn fy nhreisio i neu fy lladd i. Yn ffodus, stopiodd menyw ei char a dod mas i'n helpu i."
Llwyddodd Victoria i rannu ei stori â'r heddlu gyda help Cefnogaeth i Ddioddefwyr ac fe gafodd yr ymosodwr ei erlyn a'i garcharu am 12 wythnos.
"Fe ges i gyfiawnder ond mae 'na lawer o bobl eraill na chafodd," meddai.
"Fyddwn i ddim wedi mynd at yr heddlu yn annibynnol. Dy'n nhw ddim yn deall sut beth yw bod yn anabl."
'Mwy i'w wneud'
Y llynedd cyfaddefodd Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu bod lluoedd wedi "methu" pobl anabl gan fod cyn lleied o achosion yn mynd i'r llysoedd.
Wrth ymateb i'r ystadegau diweddaraf, dywedodd llefarydd bod "mwy o ddioddefwyr nag erioed o'r blaen" yn barod i rannu eu profiadau, ond bod "mwy i'w wneud."
"Mae heddluoedd yn cymryd pob adroddiad o drais casineb anabledd o ddifrif," meddai.
"Rydym yn ymchwilio adroddiadau yn drwyadl ac yn ystyried erlyn ar sail y dystiolaeth sydd ar gael mewn ymchwiliad.
"Mae'r ffigyrau yma yn dangos bod nifer o achosion wedi cael eu heffeithio gan drafferthion ynghylch tystiolaeth, neu amgylchiadau ble nad oedd y dioddefwr o blaid cymryd camau pellach.
"Mae'r defnydd o rybuddion, neu ddatrysiadau tu allan o'r llys, hefyd yn rhesymau posib dros leihad mewn cyfeiriadau."
Ychwanegodd bod y cyngor yn "cynnal cyfres o archwiliadau" i ddatgelu'r heriau o ran perfformiad ym maes troseddau casineb.
"Rydym yn archwilio pam nad ydy dioddefwyr yn teimlo eu bod nhw'n gallu ymwneud â'r heddlu, pam bod llai o gyfeiriadau i Wasanaeth Erlyn y Goron a pham bod nifer y cyhuddiadau gan Wasanaeth Erlyn y Goron wedi cwympo," meddai.
Dywedodd y Swyddfa Gartref: "Mae troseddau casineb, gan gynnwys troseddau casineb ar sail anabledd, yn bla ar gymunedau ledled y wlad ac nid yw'n adlewyrchu gwerthoedd Prydain fodern.
"Rydym yn disgwyl i'r heddlu gymryd y troseddau atgas hyn wirioneddol o ddifri ac yn gweithio gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron i sicrhau bod troseddwyr yn cael eu herlyn a dioddefwyr yn cael cyfiawnder."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2020