Teyrnged teulu i ddyn ifanc 'rhyfeddol'

  • Cyhoeddwyd
Ceirion GalliersFfynhonnell y llun, Llun teulu

Mae teulu dyn ifanc fu farw mewn gwrthdrawiad ddydd Sadwrn diwethaf wedi rhoi teyrnged iddo.

Bu farw Ceirion Galliers, 18 oed o Abercanaid, Merthyr Tudful, yn y digwyddiad ar yr A4060.

Mewn datganiad teimladwy, dywedodd y teulu eu bod "wedi'u chwalu" o fod wedi colli Ceirion - neu Cei fel yr oedd pawb yn ei adnabod - 11 diwrnod wedi ei ben-blwydd yn 18 oed.

Roedd ei ysgol eisoes wedi cyhoeddi teyrnged fer iddo gan ddweud: "Roedd yn ymgolli'n llwyr i bob agwedd o fywyd ysgol a choleg, ac yn batrwm ymddwyn i eraill. Roedd yn ddyn ifanc cwrtais, parchus oedd yn gweithio'n galed."

Dywed datganiad y teulu: "Wedi iddo fod yn Brif Fachgen yn Ysgol Uwchradd Afon Taf, aeth Cei ymlaen i Goleg yr Iwerydd, ac ar ôl cwblhau dwy flynedd yno yn ddiweddar fe sicrhaodd yrfa llawn amser gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron."

'Colli angel'

Roedd Cei yn frwdfrydig iawn am rygbi, a bu'n aelod o dimau Merthyr er pan yn wyth oed. Mae'r clwb wedi penderfynu peidio defnyddio crys rhif naw yn y dyfodol fel teyrnged iddo.

"Nid chwaraewr yn unig oedd Cei," medd datganiad y teulu, "roedd wastad eisiau gwneud mwy felly fe aeth ar gwrs dyfarnu ac roedd wedi dechrau dyfarnu gemau ieuenctid yn lleol.

"Mae ein teulu, y dref, ein teulu rygbi a'r gymuned ehangach wedi colli angel.

"Rydym yn gofyn i bob un o deulu Cai a'i ffrindiau yn enwedig i edrych ar ôl ei gilydd yn y dyddiau, misoedd a blynyddoedd i ddod ac i aros yn gryf a gwneud y gorau o'u bywydau eu hunain. Dyna fyddai Cei wedi hoffi gweld."

Roedd balchder mawr o fewn y teulu fod Cei wedi rhoi ei organau wedi ei farwolaeth, ac maen nhw eisoes wedi cael gwybod gan y tîm yn Ysbyty Athrofaol Cymru fod ei galon wedi helpu claf i gael bywyd newydd.

Roedd y teulu hefyd yn diolch o galon i bawb sydd wedi gyrru negeseuon o gydymdeimlad, a hefyd i'r holl staff meddygol a fu'n gofalu am Ceirion adeg y digwyddiad.

Mae swyddog arbenigol o Heddlu'r De yn cefnogi'r teulu, ac mae'r heddlu hefyd yn ymchwilio i'r gwrthdrawiad ar yr A4060 ger Pentrebach am tua 22:40 nos Sadwrn, 22 Gorffennaf.

Pynciau cysylltiedig