Eisteddfod: Anrhydeddu'r Prif Lenor Rhyddiaith
- Cyhoeddwyd
Seremoni anrhydeddu'r Prif Lenor Rhyddiaith fydd y brif ddefod ar lwyfan y Pafiliwn Mawr yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ddydd Mercher.
Mae hi hefyd yn ddiwrnod cyhoeddi enw enillydd cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn ac enillydd Brwydr y Bandiau.
Sioned Erin Hughes, 24 oed, oedd enillydd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022.
Mae'r fedal yn cael ei rhoi eleni am gyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y testun 'Porth'.
Y beirniaid yw Menna Baines, Lleucu Roberts ac Ion Thomas. Lleucu Roberts oedd enillydd y gystadleuaeth hon yn 2014 a 2021.
Mae'r fedal a gwobr ariannol o £750 yn cael eu rhoi er cof am Robyn a Gwenan Léwis gan y teulu.
Roedd y cyn-Archdderwydd Robyn Léwis yn wreiddiol o Ben Llŷn - fe dderbyniodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Pwllheli, cyn cymhwyso fel cyfreithiwr a bargyfreithiwr yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth.
Fe fydd yr orsedd yn bresennol yn y seremoni - yn wahanol i seremoni cyflwyno Gwobr Goffa Daniel Owen ddydd Mawrth.
Fe gyflwynwyd y fedal hon am y tro cyntaf ym 1937 - a hynny i J O Williams am ei gyfrol 'Tua'r Gorllewin ac Ysgrifau Eraill'.
Mae'r wobr wedi cael ei hatal droeon - y tro diwethaf i hynny ddigwydd oedd yn Eisteddfod Bro Morgannwg yn 2012.
Cafodd ei hatal hefyd yn un o eisteddfodau bro'r brifwyl eleni, sef Eisteddfod Bro Dwyfor yn 1975.
Mae nifer o gyfrolau y gystadleuaeth hon wedi cael cryn sylw - yn gynharach eleni fe enillodd cyfieithiad o Lyfr Glas Nebo fedal Yoto Carnegie.
Bydd Seremoni Dysgwr y Flwyddyn am 15:00 yn y Pafiliwn Mawr a rownd derfynol Brwydr y Bandiau ar Lwyfan y Maes rhwng 15:30 a 17:50.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Awst 2023
- Cyhoeddwyd7 Awst 2023
- Cyhoeddwyd3 Awst 2022