Cyngres Europa: Swift Hesperange 3-2 Y Seintiau Newydd
- Cyhoeddwyd
![Declan McManus](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/152E4/production/_130365768_gettyimages-1241736570.jpg)
Daeth Declan McManus a'r Seintiau Newydd yn gyfartal yn yr hanner cyntaf
Mae'r Seintiau Newydd allan o Ewrop wedi iddyn nhw golli o 3-2 yn erbyn Swift Hesperange o Lwcsembwrg nos Fawrth.
Wedi cael gêm gyfartal yng Nghroesoswallt yr wythnos diwethaf, roedd pencampwyr Cymru yn gobeithio sicrhau eu lle yn nhrydedd rownd rhagbrofol Cyngres Ewropa.
Ond pencampwyr Lwcsembwrg fydd yn parhau yn y gystadleuaeth yn dilyn eu buddugoliaeth yn y stadiwm genedlaethol.
Gyda'r posibilrwydd gall Cymru golli un o'u pedwar lle yng nghystadlaethau Ewrop oni bai am ganlyniadau ffafriol i'r Seintiau Newydd a Hwlffordd yr wythnos hon, roedd yr angen i ennill yn amlwg.
Ond roedd hi'n gychwyn trychinebus i'r Seintiau wrth ildio gôl siomedig wrth i Dominik Stolz rwydo gyda llai na dau funud ar y cloc.
Serch hynny, mewn hanner cyntaf ddigon hafal mi ddoth cyfle i unioni'r sgor wedi i Rory Holden gael ei lorio yn y cwrt cosbi wedi 21 munud.
A llwyddodd prif sgoriwr y Cymru Premier y tymor diwethaf, Declan McManus i rwydo o'r smotyn gan ddod a'r Seintiau yn gyfartal.
Ond roedd Swift yn ôl ar y blaen wedi awr wrth i'r Seintiau fethu ac amddiffyn cig rydd, gan adael cyfle hawdd i Rachid Alioui o fewn y cwrt cosbi.
Bu ond y dim i Swift sgorio trydydd brin dau funud wedyn, ond llwyddodd Ryan Astles i rwysto'r ymosodwr pan bron ar y llinell gôl.
Ond talodd y pwysau ar ei ganfed pan rwydodd Simao Martins pasio Connor Roberts, gan adael y Seintiau gyda her anferth o'u blaen i aros yn Ewrop.
Hanerwyd y fantais yn fuan wedyn wrth i McManus rwydo ei ail gic o'r smotyn, ond nid oedd yn ddigon wrth i'r Seintiau fethau a chreu cyfle arall o bwys er mwyn ffendio'r drydedd gôl holl bwysig.
Mae'n gadael Hwlffordd, a fydd yn chwarae nos Iau yn erbyn B36 o Ynysoedd y Ffaro, fel yr unig glwb o Gymru sydd ar ôl yng nghystadleuthau Ewrop.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2023