Eisteddfod: Cyngor i 'wisgo'n gall' wedi glaw trwm

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Adroddiad Iolo Cheung: 'Mae wedi glawio dipyn dros nos'

Mae trefnwyr yr Eisteddfod yn gofyn i bobl wisgo'n addas yn dilyn glaw trwm dros nos sydd eisoes wedi creu rhai mannau mwdlyd ar y maes.

Er gobaith o well tywydd yn ystod y dydd, mae rhybudd melyn am wyntoedd cryfion hefyd wedi ei gyhoeddi ar gyfer diwrnod cyntaf Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd.

O ganlyniad, "gwisgwch yn gall" oedd cyngor trefnydd y brifwyl, er iddi grybwyll fod y maes yn Boduan yn dueddol o sychu'n gyflym.

Yn ôl gohebydd Cymru Fyw ar y maes fore Sadwrn, Iolo Cheung: "Mae hi'n wlyb iawn ar faes yr Eisteddfod bore ma, yn enwedig ger y prif fynedfa, yn dilyn glaw trwm dros nos.

"Mae'r llwybr sy'n cludo pobl i'r maes carafanau hefyd yn mynd reit heibio'r fynedfa, felly er bod traciau i lawr ar eu cyfer mae'n ddigon mwdlyd yn barod.

"Cofiwch eich welis neu sgidiau cadarn felly os ydych chi'n dod i'r Brifwyl heddiw - fe fyddan nhw'n angenrheidiol!"

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru fore Sadwrn fe ddywedodd Elen Elis, Trefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol, ei bod yn disgwyl i'r tywydd wella wrth i'r dydd fynd yn ei flaen.

"Mae 'na bach o law ond dwi wedi siecio'r tywydd ac mae'r haul yn dod allan yn y p'nawn," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae traciau solet wedi eu gosod ar hyd prif lwybrau'r maes, sy'n gwneud cerdded o gwmpas yn haws. Ond mae'n wlyb mewn mannau eraill.

"Felly gwisgwch yn gall, dyrwch eich wellies ymlaen a dowch i'r maes.

"'Da ni wedi cael bach o law yn y pythefnos dwytha.. ond [mae'r maes] yn sychu o fewn cwpwl o oriau, mae'n sychu'n arbennig o dda yma sy'n rywbeth calonogol."

Canslo Sioe Aberteifi

Mae rhai digwyddiadau wedi gorfod cael eu canslo oherwydd y tywydd, serch hynny.

Yn eu mysg oedd Sioe Sirol Amaethyddol Aberteifi, oedd i fod i'w chynnal ddydd Sadwrn ond sydd wedi ei chanslo oherwydd rhagolygon y tywydd.

"Roedd yn benderfyniad anodd iawn a lot o bendroni," meddai cadeirydd y sioe, Keith Davies.

"Mae'r judges yn dod o bell a hefyd fod hall ganddon ni a pobl yn paratoi bwyd ac anifeiliaid, a decidodd y pwyllgor fod rhaid gwneud y penderfyniad ddydd Iau gan fyddai dydd Gwener yn rhy hwyr.

"Y sioe yma, i fod, oedd y 169th show ond decidodd y prif aelodau mai diogelu iechyd a diogelwch pobl oedd fwya pwysig. Damwain oedd y peth dwetha oedden ni mo'yn.

"Oedd y forecast yn addo gwyntoedd hyd at 48mya, os oedd y gwynt yn dod bydde dim cysgod gyda ni o gwbl.

"Ar hyn o bryd does dim gwynt ond ma fe fod i ddod yn hwyrach."