Heddlu'n 'adolygu' cynnwys taflen gan Ysgrifennydd Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gwent yn "adolygu" cynnwys taflen gafodd ei hanfon at etholwyr gan Ysgrifennydd Cymru David TC Davies, sy'n codi pryderon am safleoedd arfaethedig i deithwyr a sipsiwn yn ei etholaeth.
Dywed y llu eu bod yn ystyried "cynnwys y daflen a'i heffaith ar y cymunedau sipsiwn a theithwyr a sefydlog yn Sir Fynwy".
Daw hyn yn dilyn pryderon a godwyd gan grŵp eiriolaeth Travelling Ahead, a ddywedodd fod y daflen "wedi'i bwriadu i greu amgylchedd gelyniaethus i sipsiwn a theithwyr".
Ond mae AS Ceidwadol Mynwy yn mynnu "nad yw'n feirniadaeth o'r gymuned sipsiwn a theithwyr" a bod "lleoliad safleoedd awdurdodedig ac anawdurdodedig i deithwyr yn fater teg i'w drafod a'i graffu gan y cyhoedd".
'Hoffech chi weld safle teithwyr drws nesaf?'
Mae'r daflen gan Mr Davies yn cynnwys y pennawd "Safle Sipsiwn a Theithwyr yn Dod i'ch Ardal Yn Fuan!" cyn mynd ymlaen i drafod ymgynghoriad gan Gyngor Sir Fynwy ar sefydlu "nifer o safleoedd sipsiwn-teithwyr" yn y sir, a chodi pryderon "na fydd digon o ymgynghori gyda'r aelodau o'r cyhoedd yr effeithir arnynt".
Mae'r ail dudalen wedyn yn gofyn nifer o gwestiynau i'r ymatebwyr am yr ymgynghoriad, gan gynnwys: "A hoffech chi weld safle teithwyr drws nesaf i'ch tŷ? Ie/Na."
Dywedodd grŵp Travelling Ahead bod y daflen yn torri'r Ddeddf Cydraddoldeb.
'Croesawgar i bawb'
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Steve Thomas ar ran Heddlu Gwent bod "swyddogion yn adolygu cynnwys y daflen a'i heffaith ar gymunedau sipsiwn a theithwyr a sefydlog yn Sir Fynwy".
"Rydym yn cymryd unrhyw honiad o wahaniaethu o ddifrif ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein cymunedau'n lleoedd diogel ac yn groesawgar i bawb."
Mewn datganiad, dywedodd Mr Davies: "Mae lleoliad safleoedd awdurdodedig ac anawdurdodedig i deithwyr yn fater teg i'w drafod a'i graffu gan y cyhoedd.
"Mae'n gwbl ddilys beirniadu diffyg ymgynghoriad cyhoeddus eang gan gyngor.
"Mae llawer o drigolion gofidus wedi cysylltu â mi oherwydd bod yr ymgynghoriad mor fyr ac oherwydd y safleoedd arfaethedig.
"Rwyf hefyd wedi cael gwybod bod llawer o'r gymuned sipsiwn a theithwyr hefyd wedi eu siomi oherwydd y safleoedd arfaethedig.
"Nid yw hyn yn feirniadaeth o'r gymuned sipsiwn a theithwyr."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd11 Awst 2022