Marchnad dai yn 'llanast' wrth i gyfradd llog gynyddu

  • Cyhoeddwyd
Charlie a Angela RamsellFfynhonnell y llun, Angela Ramsell
Disgrifiad o’r llun,

Mae Angela Ramsell yn poeni y bydd yn colli cyfle i brynu tŷ yn agosach at ei mab wrth aros i werthu ei un hi

Mae Angela Ramsell, o Lanrhaeadr-ym-mochnant, eisiau gwerthu ei thŷ er mwyn byw yn nes at ei mab, am fod ganddi ganser terfynol.

Ond awr cyn cyfnewid contract ar ei bwthyn yng ngogledd Powys, fe benderfynodd ei phrynwr dynnu mas.

Yn ôl ymchwil Cymdeithas Adeiladu Principality fe gwympodd nifer y tai a gafodd eu gwerthu dros y flwyddyn ddiwethaf.

Fe wnaeth Banc Lloegr gynyddu cyfradd llog eto ddydd Iau - o 5% i 5.25% - er mwyn mynd i'r afael â phrisiau cynyddol.

Gobaith Angela yw prynu tŷ newydd yn Chichester er mwyn bod yn agos at ei hunig fab, Charlie.

Ond ei phryder yw colli mas ar gyfle i brynu tŷ newydd wrth aros i werthu ei thŷ yn Llanrhaeadr-ym-mochnant.

Ffynhonnell y llun, Angela Ramsell
Disgrifiad o’r llun,

"Does dim byd yn bod gyda fy mwthyn. Mae'r lleoliad yn wych," dywedodd Angela Ramsell

Dywedodd y cafodd sioc pan benderfynodd ei phrynwr dynnu mas funud olaf.

"Roeddwn i'n cael triniaeth cemotherapi ar y pryd pan ges i'r neges i ddweud bod y prynwr wedi tynnu mas. Gall yr amseru ddim wedi bod yn waeth," meddai.

"Does dim byd yn bod gyda fy mwthyn, mae'r lleoliad yn wych. Y broblem yw bod y farchnad yn llonydd erbyn hyn."

'Sioc bod y tŷ ddim yn gwerthu'

Mae cynnydd yng nghyfraddau llog wedi arafu nifer y tai sy'n cael eu gwerthu yng Nghymru.

Yn ystod ail chwarter 2023 fe gwympodd gwerthiant tai 24% o gymharu â'r un cyfnod y llynedd, yn ôl ffigyrau diweddaraf y Principality.

Mae Laura Casey yn fam i ferch 14 mis oed ac mae'n pryderu'n arw wrth geisio gwerthu ei thŷ yn Llanilltud Faerdref yn Rhondda Cynon Taf, sydd wedi bod ar y farchnad ers mis Mai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Laura Casey y bydd yn cael "effaith anferthol" arni os na all werthu ei thŷ

Erbyn diwedd y mis fe fydd ei morgais cyfradd sefydlog yn dod i ben a bydd Laura yn symud i forgais cyfradd amrywiadwy.

O ganlyniad fe fydd hi'n gorfod talu tua £400 yn fwy bob mis, meddai.

"Mae'n bach o sioc bod y tŷ ddim yn gwerthu," dywedodd.

"Dwi'n ffeindio hi'n rili anodd i feddwl ble dwi am ffeindio'r pres. Ydw i'n mynd i orfod ffonio'r banc a benthyg pres?

"Ydw i am barhau ar y gyfradd amrywiadwy a bwyta mewn i'r bach iawn o arbedion sydd gyda fi?

"Mae wedi rili taro fi wythnos yma bod hwn yn mynd i gael effaith anferthol arno fi."

'Llai yn edrych am dai'

Dywedodd Ian Wyn-Jones, arwerthwr tai ar draws gogledd Cymru: "Mae pawb yn stryglan ar hyn o bryd.

"Os mae'r cyfraddau llog yn parhau i godi eto yna dwi ddim yn gweld y diwydiant gwerthu tai yn goroesi.

"Mae yna lai o bobl yn mynd allan i edrych am dai. Mae'r nifer o bobl sy'n dod aton ni i weld tai sydd ar werth i lawr tua 50%, lle o'r blaen roedden ni'n brysur trwy'r adeg.

"Mae hynny'n digwydd i arwerthwyr ar draws Cymru ar hyn o bryd."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ian Wyn-Jones fod morgeisi cynyddol hefyd yn effeithio ar bobl sy'n rhentu

Mae'r sefyllfa yn bryderus i bobl sy'n rhentu hefyd, meddai.

"Beth rydyn ni'n gweld ar hyn o bryd yng ngogledd Cymru, mae'r bobl sydd ag ail-dai yn dechrau gwerthu nhw oherwydd y rheolau newydd.

"Ond mae pobl sydd â thŷ i rentu, mae prisiau nhw wedi mynd i fyny achos mae demand mor uchel.

"Mae'n bechod, ond cofiwch chi, mae morgeisi y landlordiaid wedi mynd fyny hefyd."

Y cyngor i bobl sy'n ei chael yn anodd talu eu morgais yw cysylltu â benthycwyr fel rhan o ymgyrch 'Reach Out' y diwydiant bancio.

'Teimlo dros bobl ifanc'

Mae Angela Ramsell yn gobeithio bydd y driniaeth mae hi'n derbyn ar gyfer ei chanser yn rhoi cyfle iddi dreulio mwy o amser gyda'i mab, ond mae'n bum awr o daith rhwng Llanrhaeadr-ym-mochnant a Chichester.

"Mae bod yn agos i fy mab, Charlie, yn holl bwysig ar gyfer fy iechyd meddwl a chorfforol. Ond rwy'n parhau i fod yn bositif," dywedodd.

"Mae'r farchnad dai yn mess ar hyn o bryd. Rwy'n teimlo dros bobl ifanc. O leiaf mae gen i dŷ ar hyn o bryd, ac rydw i'n ddiolchgar o hynny hefyd wrth gwrs."

Pynciau cysylltiedig