Datblygiadau 'sylweddol' i bentref lles yn Llanelli

  • Cyhoeddwyd
Pentref Llesiant LlanelliFfynhonnell y llun, Cyngor Sir Gaerfyrddin
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i'r cynllun greu 1,800 o swyddi a dod â £467m i'r economi leol

Mae 'na "ddatblygiadau sylweddol" i bentref lles cyntaf o'i fath yn Llanelli, yn ôl Cyngor Sir Gâr.

Fe gafodd cynlluniau Pentre Awel - prosiect sy'n cyfuno tai, busnesau, addysg, iechyd a chyfleusterau hamdden - eu cymeradwyo gan y cyngor yn 2019.

Mae'r cynlluniau wedi achosi tipyn o ddadlau - fe gafodd partneriaid y prosiect ar y pryd eu tynnu oddi ar y cynllun yn 2018 ac mae 'na ddryswch wedi bod yn lleol.

Yn ogystal, fe gafodd ddau uwch academydd o Brifysgol Abertawe eu diswyddo am fethu â datgan buddion ariannol yn y datblygiad gwerth £200m.

Ond bellach mae cwmni adeiladu Bouygues UK a Chyngor Sir Gâr wedi cyrraedd "carreg filltir" wrth ddangos y strwythur dur cyntaf ar gyfer y prosiect.

Mae disgwyl i'r prosiect gyfuno arloesedd bywyd a busnes, gofal iechyd cymunedol a chyfleusterau hamdden modern ar safle Llynnoedd Delta, tua milltir o ganol y dref.

Bydd y pentref yn costio hyd at £200m ac mae wedi ei ariannu'n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe o £40m.

Fe fydd gweddill y prosiect yn cael ei ariannu gan Gyngor Sir Gaerfyrddin a'r sector preifat.

Y gobaith yw y bydd y prosiect yn cyfrannu £467m at yr economi leol a chreu 1,800 o swyddi dros 15 mlynedd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae cwmnïau Dyfed Steels o Ddafen yn Llanelli a Shufflebottom o Crosshands wedi darparu'r dur ar gyfer y strwythur newydd

Bydd y pentref yn cynnwys:

  • Canolfan hamdden

  • Canolfan ymchwil

  • Canolfan addysg a hyfforddi

  • 35 o dai cymdeithasol

  • 144 o fflatiau byw â chymorth

  • Ardaloedd ar gyfer sefydlu busnesau

  • Gwesty 140 ystafell

  • 35 uned ar gyfer tai

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Cynghorydd Darren Price fod yr angen ar gyfer menter o'r fath yn Llanelli yn fawr

Llanelli oedd â'r twf economaidd isaf yng Nghymru o 3% y llynedd, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Yn ôl arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin, Darren Price, mae'r angen ar gyfer menter o'r fath yn Llanelli yn fawr.

"Mae 'na heriau sylweddol yn wynebu tref Llanelli a fel gweinyddiaeth ni wedi bod yn glir ein bod ni'n awyddus i ddod â Phentre Awel yma i'r dref," dywedodd.

"Wrth gwrs mi oedd 'na ddiwydiant yn yr ardal dros y degawdau ond mae rheiny wedi hen fynd.

"Felly mae dyletswydd gyda ni fel sir i edrych ar y posibiliadau a'r opsiynau yn yr ardaloedd yma."

'Does neb yn gwybod'

Yn lleol mae yna ddryswch wedi bod ynglŷn â'r prosiect.

Mae Margaret Hand a Merlys Richards o Lanelli ac yn rhedeg stondin ym marchnad y dref.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Margaret (chwith) a Merlys (dde) yn dweud bod dryswch yn parhau yn lleol

Yn ôl Merlys dyw pobl y dref ddim yn gwybod digon am y cynllun: "Fi 'di clywed bod nhw'n buildo rhywbeth 'na ond 'sa i'n siŵr beth."

Ychwanegodd Margaret: "'Sa i'n siŵr beth yw e, does neb yn gwybod. Mae'n syniad da ond does dim byd yn dre' - mae popeth yn mynd yn waeth."

'Lot o waith yn y cefndir'

Mae'r Cynghorydd Darren Price yn cyfaddef y bu dryswch i bobl leol ynghylch pwrpas y cynllun yn y gorffennol.

"Mae'n wir i ddweud dros y blynyddoedd mae 'na lot o waith wedi bod yn mynd ymlaen yn y cefndir a doedd y cyhoedd ddim cweit yn deall beth yn union oedd yn mynd yna," dywedodd.

"Falle camddealltwriaeth am beth oedd ar y gweill.

"Ond dros y flwyddyn ddiwetha' mae'r prif gontractwyr a'r cyngor sir wedi bod yn cysylltu gyda phobl leol a chynghorwyr am beth sy'n bosib yno dros y degawd nesaf."

Ffynhonnell y llun, Cyngor Sir Caerfyrddin
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i 'Ardal 1' y cynllun fod ar agor yn haf 2024

Mae cwmnïau Dyfed Steels o Ddafen yn Llanelli a Shufflebottom o Crosshands wedi darparu'r dur ar gyfer y strwythur newydd.

Mae'r deunydd sydd wedi ei ddarparu yn cynnwys dros 80% o gynnwys wedi'u hailgylchu ac mae 'na gyswllt hanesyddol gyda hen ddiwydiant tunplat yr ardal.

Yn ôl y Cynghorydd Price mae cefnogi busnesau lleol yn "hollbwysig".

"Mae'r gwaith werth miliynau o bunnoedd i'r cwmnïau yma felly ni'n falch iawn fel cyngor ein bod yn gallu creu'r cyfleoedd yma.

"Mae 'na esiamplau eraill o gwmnïau eraill yn y sir sydd yn elwa."

Pynciau cysylltiedig