Clwb Rygbi Caernarfon yn dathlu 50 mlwyddiant

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Ieuan Jones a Cai Griffiths fu'n trafod 50 mlwyddiant y clwb ar raglen Dros Frecwast

Mae 'na ddathlu yng Nghaernarfon eleni wrth i glwb rygbi'r dref droi'n 50 oed.

Ymysg y digwyddiadau i nodi'r garreg filltir, bydd y clwb yn cynnal gêm gyfeillgar rhwng Rygbi Gogledd Cymru a Chymry Llundain brynhawn Sadwrn.

Mae mwy o ddathlu ar y ffordd i'r clwb hefyd, wrth i dîm y merched droi'n 25 oed yn ddiweddarach fis Awst.

Dywedodd un o gyfarwyddwyr Clwb Rygbi Caernarfon, Ieuan Jones, mai dyma "gychwyn y dathliadau i ni am y 12 mis mewn ffordd".

"Gallwn ni ddim dychmygu ffordd well o ddathlu 50 y clwb na gêm rhwng Rygbi Gogledd Cymru a'r Cymry yn Llundain," meddai.

Ffynhonnell y llun, Clwb Rygbi Caernarfon
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r clwb wedi cael cryn dipyn o lwyddiant yn ystod ei 50 mynedd o fodolaeth

Bydd dydd Sadwrn yn achlysur arbennig hefyd i un o gyn-sêr tîm Caernarfon, Cai Griffiths.

Yn wreiddiol o Gaernarfon, roedd yn dipyn o arwr i dîm y dref cyn iddo fynd i chwarae i'r Gweilch, ac mae bellach yn gyfarwyddwr rygbi Cymry Llundain.

Dywedodd Ieuan Jones, oedd hefyd yn athro ar Cai yn Ysgol Syr Hugh Owen, ei fod "wedi dilyn ei yrfa ers roedd o'n hogyn ysgol".

"Yn symud ymlaen i chwarae i Gymru, ysgolion dan-20, chwarae i'r Gweilch, Cymry Llundain, mynd dros y dŵr i'r Eidal wedyn i chwarae, a dod yn ôl i fod yn gyfarwyddwr rygbi Cymry Llundain."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe dreuliodd Cai Griffiths gyfnodau yn chwarae i Gymry Llundain a'r Gweilch yn ystod ei yrfa

Dywedodd Cai Griffiths: "Dwi'n rîli excited, y tîm hefyd, ond mae'n neis mynd adra hefyd i weld pobl eraill sydd wedi bod yn y clwb, a phobl dwi heb weld ers yn hir.

"Dwi'n siŵr y bydd hi'n gêm dda efo bach o celebrations ar ôl y gêm.

'Roedd o [y clwb] yn bob dim i fi. Mae 'na lot o ddiolch yn mynd i Ieu hefyd a phobl eraill sydd wedi bod yn y clwb.

"Nes i ddechrau chwarae rygbi yn eitha' hwyr - yn 13 oed - a 'naeth lot o bobl yn y clwb roi support i fi.

"O'dd Ieu yn dreifio fi lawr i south Wales bob dydd Sul felly mae gan i lot o ddiolch i bobl yn y clwb."

Ffynhonnell y llun, Clwb Rygbi Caernarfon
Disgrifiad o’r llun,

Mae tîm merched Caernarfon hefyd yn dathlu 25 mlynedd eleni

Dywedodd Ieuan Jones mai nod y clwb ydi "dylanwadu a rhoi cyfle i blant a phobl ifanc yng Nghaernarfon a'r dalgylch i fod yn rhan o glwb cymunedol".

"Rydan ni'n croesawu pawb a'n dathlu pan ma' rhai o'n merched a'n hogia' ni yn mynd ymlaen i chwarae i Gymru neu'n 'neud gyrfa iddyn nhw'u hunain," meddai.

"Mae'r merched hefyd yn dathlu 25 mlynedd eleni felly mae gennym ni ddau ddathliad, gydag un y merched ar 26 Awst."

'Tyfiant mawr yn y diddordeb'

Mae gan Ieuan atgofion melys o'i ddyddiau cynnar gyda'r clwb, ac yn credu fod rygbi ar lawr gwlad yn y gogledd yn mynd o nerth i nerth.

"Tua 1976, fel bachgen ifanc oedd fy mhrofiad cyntaf gyda'r clwb," meddai.

"Roedd clybiau eraill fel Bangor, Wrecsam, Rhuthun a Bae Colwyn eisoes wedi sefydlu, a gyda llwyddiant y tîm cenedlaethol a chwaraewyr fel JPR Williams, Gareth Edwards a Phil Bennet ac yn y blaen, roeddech chi'n gweld rygbi yn tyfu yn y gogledd.

"Clybiau fel Nant Conwy, Bethesda, Llangefni, Pwllheli a ni, a'r mwyaf sydyn mae'r rhan fwyaf o'r clybiau hyn yn 50 oed, sy'n dangos bod yna dyfiant mawr yn y diddordeb a'r ysgolion hefyd yn hybu am y tro cyntaf erioed."

Pynciau cysylltiedig