Galw am ddatblygu rygbi merched i leihau teithiau hir
- Cyhoeddwyd
Mae clwb rygbi o ogledd Cymru'n gobeithio y bydd mwy o dimau merched yn datblygu'n yr ardal, fel nad ydy eu tîm yn gorfod teithio mor bell.
Tîm rygbi merched Caernarfon ydy un o dimau mwyaf llwyddianus gogledd Cymru, ond maen nhw'n dweud fod teithio cannoedd o filltiroedd ar gyfer gemau oddi cartref yn cael effaith negyddol arnynt.
Mae'r tîm yn chwarae yn Uwch Gynghrair Merched Cymru - yr unig dîm o ogledd Cymru i wneud hynny - ac felly'n gorfod teithio i wahanol rannau o dde Cymru bob yn ail wythnos.
Mae'r merched yn gorfod teithio dros bum gwaith y pellter mae tîm dynion Caernarfon yn gorfod ei deithio y tymor hwn.
Y clwb agosaf o ran lleoliad i Gaernarfon yn y gynghrair ydy Clwb Rygbi Hendy-gwyn ar Daf yn Sir Gaerfyrddin.
Un o chwaraewyr tîm y Cofis yw Lowri Wynn, ac fe ddywedodd wrth BBC Cymru Fyw fod yr holl deithio yn gallu cael effaith negyddol ar y chwaraewyr.
"O'i gymharu 'efo'r dynion, mae'n dipyn o daith i'r genod.
"Yn aml 'da ni'n gorfod gadael y clwb am 08:00 ar ddydd Sul, a ddim yn dychwelyd tan wedi 22:00 yn y nos.
"Mae'r rhan fwyaf o'r merched yn gweithio ar fore Llun, a nid yn unig fod y genod wedi blino erbyn bore Llun, ond yn aml mae'n rhaid iddynt roi eu nos Sadwrn i fyny hefyd.
"Fe fydd y dynion yn teithio cyfanswm o 200 o filltiroedd i'w gemau cyn y Nadolig, ond ar gyfartaledd 'da ni'n teithio tua 300 milltir bob gêm i ffwrdd, ac fe fyddwn ni wedi teithio cyfanswm o dros 1,000 o filltiroedd i gyrraedd ein gemau."
Anhawster arall sy'n wynebu'r merched ydy timau o'r de yn methu teithio i Gaernarfon am resymau'n cynnwys y pellter a'r amser teithio.
Fe gafodd gêm gynta'r tymor, adref yn erbyn Clwb Penybanc sydd ger Rhydaman, ei chanslo gan nad oedd digon o chwaraewyr ar gael i deithio'r 140 milltir i Gaernarfon.
Rheolwraig tîm Caernarfon ydy Catrin Mair Roberts, sy'n gobeithio gweld timau eraill yn datblygu ar draws y rhanbarth er mwyn gallu cystadlu ar yr un lefel, a sicrhau gemau o'r un safon yn agosach at adref.
"I ni gael chwarae i'r safon mae'r genod yma wedi arfer chwarae, mae'n rhaid i ni fod yn y Premiership.
"Mae o'n golygu bod rhaid i ni drafeilio.
"Dwi ddim yn meddwl fod hyn am stopio'r genod ond 'sai yn braf gweld y gogledd yn datblygu mwy a bod y safon yn codi. A bod ni'n gallu trafeilio llai yn y dyfodol."
Ymrwymiad yn 'fawr iawn'
Ychwanegodd: "Ar y funud, 'da ni'n teithio pob yn ail penwythnos... swn i'n gallu dweud mai local derby ni ydy Hendy-gwyn.
"I lot o'r genod sydd 'efo swyddi, mae pawb yn gweithio, rhai yn y byd addysg, yn y frigâd dân, yn y maes meddygol.
"Ar ôl bod ar y ffordd am hyd at 10 awr ar ddydd Sul, a chwarae gêm rygbi yn y canol, mae o'n gallu bod yn flinedig iawn, ac mae'r ymrwymiad gan y genod yn fawr iawn."
Ond er yr anhawsterau, dywedodd eu bod fel tîm yn ddiolchgar iawn i bwyllgor Clwb Rygbi Caernarfon am eu cefnogaeth barhaus, ac am ymroddiad Undeb Rygbi Cymru i gefnogi rygbi merched yn y gogledd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2018