Harri Parri: 'Y dirywiad mwyaf mewn crefydd'
- Cyhoeddwyd
Wrth i Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd ddechrau'n swyddogol dywed gweinidog a fagwyd yn yr ardal ei fod wedi gweld y dirywiad mwyaf erioed ym myd crefydd ond nad yw'n digalonni'n llwyr.
Mewn sgwrs ar raglen Bwrw Golwg dywed y Parchedig Harri Parri sydd hefyd yn awdur straeon poblogaidd am weinidog dychmygol Carreg Boeth a Phorth yr Aur, Eilir Thomas, bod ei fagwraeth gynnar yn Llangian wedi dylanwadu'n fawr ar ei waith a'i weinidogaeth.
"Mae'n rhy anodd chwerthin am y dirywiad presennol," meddai.
Pan ddaeth Eilir Thomas yn weinidog i Carreg Boeth yn 1968 doedd y cilio mawr ddim wedi digwydd, wel ddim wedi llawn gyrraedd, a dyna i raddau pam ydw i wedi osgoi sôn am bethau fel'na," ychwanegodd Harri Parri, "ond dwi wedi gweld y dirywiad mwyaf fu ers canrifoedd debyg."
'Llenydda yn ddihangfa'
"Mi es i ati i lenydda fel dihangfa... roedd 'na bethau yng ngwaith y gweinidog oedd yn peri dryswch meddwl i mi, a chwestiynau heb ateb iddyn nhw ac yn y blaen a dyma fi yn creu byd y gallwn i ddianc iddo fo ar dro felly. Byd capel, a theulu a phobl capel.
"Cyrraedd o unman wnaeth Eilir Thomas fel mae cymeriadau mewn nofelau a dramâu am wn i. Dydi o'n debyg i neb ac eto i amryw, ac yn debyg i mi mewn rhai pethau. Ond yn ôl ei dafodiaith mae o wedi ei eni ym Mhen Llŷn.
"Doedd na ddim atebion gan Eilir Thomas chwaith, trafod oedd o ynde, a gwneud camgymeriadau mawr fel finnau wrth gwrs.
"Ond a dweud y gwir nid fi piau fo i gyd, actorion fel Charles Williams a John Ogwen, nhw ddaru ei droi yn gig a gwaed."
Ffrae yr organ
Heb os mae ambell ddigwyddiad yn hanes Harri Parri wedi bwydo'r straeon.
"Lle cymharol ddi-ddigwydd oedd Llangian fy magwraeth i gymharu efo ardaloedd mwy poblog, a 'di o ddim wedi newid llawer.
"Ond dwi yn cofio un cweryl enbyd yno pan oeddwn i yn hogyn ysgol uwchradd ynghylch safle'r organ. Cuddio rhwyg ehangach rhwng teuluoedd oedd hwnnw - yn aml iawn cweryl tu allan ydi achos ffrae o fewn capel ynde?
"Y capel oedd yr unig theatr yn y fro i lwyfannu'r ddrama ac fe fuodd y digwyddiad hwnnw yn help i mi gydol oes i gofio mai cymdeithas amherffaith ydi unrhyw eglwys ac fe ddaeth Eilir Thomas ar draws helbulon tebyg ar ôl hynny."
Gafr yn bwyta'r Goleuad!
Mae'n adrodd hanes arall pan oedd yn weinidog yn nyffryn Madog - hanes a gyrhaeddodd y Daily Mail a'r pennawd oedd The ecumenical goat.
"Ym Mhorthmadog, tu ôl i'r mans, Gelliwig roedd 'na ryw chwarter acer o dir wast ar lechwedd serth.
"Un ateb medda rhywun oedd gafr, ac fe benderfynodd y ficer, Alwyn Rice Jones, Archesgob Cymru yn nes ymlaen, y basa fynta yn hoffi cael gafr i bori ryw dir o gwmpas y Rheithordy, a dyma ffurfio undeb eglwysig yn y fan a'r lle, a rhannu'r afr - mis bob yn ail.
"Yn annisgwyl iawn fe ddaeth 'na air o ardal Cwm Ystradllyn bod 'na afr yn fan honno yn brin o borfa a bod hi i'w chael am ddim, dim ond ei chyrchu hi felly.
"Fan wersylla, camper van oedd gen i ar y pryd a hwnnw oedd y cludiant. Ond cyn cychwyn mi daenais i gopïau o'r Goleuad ar lawr y fan rhag ofn! Fi oedd golygydd y Goleuad ar y pryd, a choeliwch i ddim, ond cyn diwedd y daith roedd yr afr, gan faint ei newyn, wedi bwyta bob dalen a rhifyn - serch mor sych oedd y Goleuad ar y pryd, medda nhw!"
Neb tebyg i Tom Nefyn
Un o'r dylanwadau mawr ar feddwl Harri Parri ac ar y fro oedd Tom Nefyn
"Fuodd na 'rioed weinidog arall tebyg iddo fo, roedd o'n pregethu yn amlach na pheidio ar balmentydd trefi a phentrefi yn hytrach nag mewn capeli," medd Harri Parri.
"Bugeilio'r di-gapel a'r di-gefn gymaint â phraidd y gorlan, a'i bregethu yn ystod cyfnod Y Tymbl yn heriol ynde?
"Ac eto roedd pobl yn ffyrnigo yn enbyd. Nid pob dyn sydd yn cael ei wahardd rhag pregethu gan ei enwad a phobl yn cadwyno giatiau'r capel rhag i neb fynd i wrando arno fo - dyna ddigwyddodd yn Y Tymbl.
"Fe fuodd farw yn ddramatig, heb fod yn bell o faes y 'Steddfod, wrth fwrdd swpar yn Rhydyclafdy yn 1958 a dwi'n cofio dod efo llond bws o fyfyrwyr yn groes i ddymuniad y prifathro i'r angladd.
"Roedd 'na rhwng dwy fil a hanner a thair o bobl yno.
"Roedd na ryw bresenoldeb yn perthyn iddo fo. Roedd mam braidd ei ofn o - fydda fo yn dod acw i swper - a nhad yn ei addoli o a mam ryw ofn o ac yn taflu brechdanau o bell felly, oherwydd y presenoldeb yma dwi'n meddwl."
Y saithdegau yn gyfnod pwysig
Ond nid dirywiad yn unig y mae Harri Parri wedi ei weld, y mae'n cofio dechrau'r saithdegau gyda gwên.
"Roedd y 70au yn cyfnod pwysig iawn i mi, roedd na gryn fynd ar waith pobl ifanc a phlant ym Mhorthmadog ac mewn mannau eraill felly.
"Roedd na ralïau mawr yn cael eu cynnal benwythnosau, mewn mannau fel Pen Llŷn, Dyffryn Clwyd, Corwen ac Ynys Môn.
"Dwi'n dal i gofio criw mawr o bobl ifanc oedd yn cyfarfod yn festri fawr yn yr hen Dabernacl... fydda na drafod a myfyrio ac ambell un yn gofyn am air o weddi cyn ymadael.
"Un o'r criw oedd Carys Humphries, ac mae Carys wedi bod yn rhan o genhadaeth eglwys Taiwan am flynyddoedd bellach, a'i thystiolaeth yn llawer lletach na hynny wir.
"Ond y rali fwya' cofiadwy i mi oedd rali Corwen yn 1973, roedd 'na groes bren fawr ar ganol y llwyfan a lle i bobl ifanc ddianc i fan honno i sefyll, penlinio, gweddïo ac i ganu ac yn y blaen.
"Roedden nhw wedi mynd i genhadu yn nhref Corwen ac roedd na dros 300 yn y pafiliwn y noson honno. Ond yn anffodus oeri wnaeth pethau wedyn."
Cwmni'r Gronyn Gwenith
Dywed fod cyfnod ei weinidogaeth yng Nghaernarfon hefyd yn llawn cyffro.
Roedd yna theatr yn gysylltiedig â chapel Seilo ac yn 1977 daeth Sasiwn y Gogledd i'r dref ac fe gafwyd pasiant yn y theatr yr adeg honno.
O hynny y sefydlwyd Cwmni'r Gronyn Gwenith a fyddai'n perfformio pasiant blynyddol "yn dathlu ein treftadaeth grefyddol a diwylliannol a gobeithio yn gadael neges hefyd".
"Dros y blynyddoedd perfformiwyd 32 o basiantau, ac fe gafwyd cymaint a 2500 yn gwylio.
"Fe ffurfiwyd cwmni ieuenctid hefyd, Cwmni Anni Meths, efo Ron Williams.
"Crist ein Prins oedd y sioe gyntaf, rhoi efengyl Marc ar lwyfan, a thrwy gymorth gwirfoddolwyr a chynorthwywyr teithio Cymru gyfan efo'r cynhyrchiad."
Y dyfodol?
Er y dirywiad mwyaf erioed nid yw Harri Parri yn edrych ar heddiw gyda digalondid llwyr.
"Mi fydd angen yr eglwys o hyd, ond mae angen wynebu ffeithiau.
"Ges i fy magu ar fferm, Lôn Dywyll, lle oedd anghydffurfwyr cyntaf Sir Gaernarfon yn cyrraedd, a'r enw Loôn Dywyll am eu bod nhw yn tywyllu ffenestri yn adeg erlid.
"Mewn sguboriau a tai ffermydd y gwnaeth rhan fwyaf o eglwysi ymneilltuol ddechrau, ac roedd hi'n gamgymeriad mawr codi cymaint o adeiladau nad oedd 'rioed eu hangen nhw, a dwi'n ryw dybio y byddwn ni yn mynd yn ôl i hynny mewn ambell i bentref, cyfarfod mewn cartref, neu hen siop neu rywbeth neu'i gilydd, wnaiff y ffydd ddim peidio ar ôl ugain canrif, dwi ddim yn meddwl," meddai.
"Dwi wedi gweld y dirywiad mwyaf fu ers canrifoedd debyg, ond mae gweddi yn cynnal ffydd a chymdeithasu - cyfarfod pobl ffydd a phobl sydd yn chwilio am ffydd neu angen ffydd - yn enwedig pobl sydd yn wynebu anghenion.
"Mae na bobl yn ein stryd ni wedi ymateb i brofedigaeth enbyd un teulu yn ddiweddar ac wedi byw eu ffydd.
"Hyd y gwn i gweithredoedd ydi'r unig brawf o ffydd rhywun ac roedd gan Tom Nefyn ffydd agored a gweithredoedd go anhygoel."
Bydd Harri Parri yn siarad am Feddyg y Ddafad Wyllt ar faes y Steddfod ddydd Sul am 11.15 a ddydd Mercher am 13:45 bydd Harri Parri a John Ogwen yn y Babell Lên yn trafod gweinidogaeth yr hen Eilir Thomas.
Mae mwy o'r cyfweliad i'w glywed ar Bwrw Golwg 6 Awst ac yna ar BBC Sounds.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Awst 2023