Y Bencampwriaeth: Leeds United 2-2 Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Roedd hi'n ddiweddglo dramatig brynhawn Sul wrth i Leeds frwydro'n ôl i sicrhau gêm gyfartal yn erbyn Caerdydd.
Gyda Leeds wedi syrthio o'r Uwch Gynghrair y tymor diwethaf, roedd maint her Caerdydd yn amlwg wrth i dîm Daniel Farke obeithio esgyn yn syth yn ôl i fyny.
Ond gyda'r Adar Gleision ddwy ar y blaen ar yr egwyl, roedd Leeds angen gôl yn ystod amser ychwanegol i hawlio pwynt.
Bu'n rhaid i Gaerdydd, hefyd o dan arweiniad rheolwr newydd, wrthsefyll pwysau trwm ond fe lwyddon nhw i sgorio ddwywaith drwy wrthymosod yn glinigol.
Fe ddaeth y cyntaf diolch i Josh Bowler cyn i Ike Ugbo roi'r ymwelwyr 2-0 ar y blaen .
Ond fe ddaeth gobaith i Leeds diolch i beniad nerthol Liam Cooper yn gynnar yn yr ail hanner.
Wedi i'r tîm cartref fethu sawl cyfle roedd cefnogwyr Caerdydd yn dechrau teimlo fod y triphwynt yn ddiogel.
Ond torrwyd eu calonnau gyda 95 munud ar y cloc, wedi i Gaerdydd fethu a chlirio'r bêl o'r cwrt, wrth i ergyd Summerville guro Jak Alnwick.
Roedd hyn yn ddigon i sicrhau mai rhanedig fyddai'r pwyntiau ar benwythnos agoriadol y tymor.