Cwpan yr EFL: Tri o dimau Cymru drwodd i'r ail rownd

  • Cyhoeddwyd
Joel Piroe yn dathlu sgorio'i gôl gyntaf o'r tymorFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Joel Piroe yn dathlu sgorio'i gôl gyntaf o'r tymor

Mae tri o dimau Cymru - Abertawe, Casnewydd a Wrecsam - drwodd i ail rownd Cwpan yr EFL ar ôl trechu eu gwrthwynebwyr - oll yn dimau Adran Un - nos Fawrth.

Fe sgoriodd Joel Piroe ddau o goliau'r noson (wedi 10 a 53 munud o chwarae) yn Stadiwm Swansea.com cyn i'r eilydd Josh Ginnelly daranu'r bêl i'r rhwyd (90+4) i sicrhau buddugoliaeth yr Elyrch o dair gôl i ddim dros Northampton Town.

Ar ôl ildio gôl tua diwedd yr hanner cyntaf i Charlton Athletic, fe ddaeth Aaron Wildig (63) â'r Alltudion yn gyfartal cyn i Will Evans (76) a Seb Palmer-Houlden (80) rwydo i ennioll 3-1 yn Rodney Parade.

Ond roedd angen ciciau o'r smotyn i setlo'r gêm rhwng Wrecsam a Wigan Athletic ar y Cae Ras wedi gêm gyffrous ond ddi-sgôr.

Fe cadwodd chwaraewyr Wrecsam eu pennau gan rwydo'u pedwar ymgais cyntaf, a bachu eu lle yn y rownd nesaf, er llawenydd eu cefnogwyr yn y SToK Cae Ras, wedi i ddau o ergydion Wigan Athletic fynd dros y trawst i wneud hi'n 4-2.