Lansio cronfa yn y Brifwyl er cof am Dr Llŷr Roberts
- Cyhoeddwyd
Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi sefydlu cronfa er cof am yr arbenigwr busnes, Dr Llŷr Roberts, a fu farw ym mis Mehefin yn 45 oed tra ar wyliau yng ngwlad Groeg.
Cafodd Cronfa Llŷr ei sefydlu mewn cydweithrediad â theulu'r diweddar ddarlithydd, oedd yn hanu o Lanrug yng Ngwynedd, a Phrifysgol Bangor ble roedd wedi ymuno â'r tîm academaidd yn gynharach eleni.
Bydd yr arian sy'n cael ei godi yn mynd at gefnogi myfyrwyr addysg uwch gyda'u hastudiaethau cyfrwng Cymraeg.
Dywedodd ei chwaer, Lowri Gwyn: "Fel teulu dymunwn ddiolch i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am sefydlu cronfa i gofio Llŷr.
"Roedd Llŷr yn fab, brawd ac yncl annwyl ac arbennig iawn. Mae'n gysur gwybod bod ei gydweithwyr, ei fyfyrwyr a'i ffrindiau hefyd yn meddwl y byd ohono."
Roedd Dr Llŷr Roberts yn un o'r darlithwyr cyntaf i gael ei benodi i swydd o dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Dywed y coleg ei fod wedi mynd ymlaen "i wneud cyfraniad amlweddog i addysg uwch cyfrwng Cymraeg, ac i genhadaeth ehangach y coleg dros y blynyddoedd, a hynny fel addysgwr, awdur a chyfathrebwr".
'Gwaddol am genedlaethau'
"Roedd Llŷr yn ysbrydoliaeth i'w gydweithwyr ac i'w fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol De Cymru, a bydd bwlch enfawr ar ei ôl," meddai Dr Dafydd Trystan, cofrestrydd y Coleg Cymraeg, a oedd yn gydweithiwr iddo am dros ddegawd.
Mewn sgwrs gyda rhaglen Dros Frecwast, dywedodd bod yna awydd i goffa "polymath go iawn... wnaeth gyfoethogi bywyd pob un ohonon ni ddaeth i'w adnabod".
Roedd yr alwad yn rhoi gwybod fod Dr Roberts wedi marw'n annisgwyl yn "ergyd" ac yn "ysgytwol" i bawb, meddai, ond "mae'n rhaid dal 'mlaen i'r hyn oedd yn sbarduno Llŷr, a'r bywyd a'r asbri oedd e'n rhoi mewn i bopeth oedd e'n ei wneud".
"Os y'n ni'n gallu creu gwaddol fydd yn para cenedlaethau - fel mae gwaddol dysgu Llŷr wedi gwneud, dwi'n gwybod, i fyfyrwyr ar draws y wlad hon - wy'n credu allen ni fod yn falch iawn."
Dywedodd Dafydd Trystan bod yna gyfle i bobl gyfrannu i'r gronfa, sy'n cael ei gweinyddu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a bydd "pob ceiniog" yn mynd at gefnogi astudiaethau cyfrwng Cymraeg.
Mae'n bosib y bydd yna ysgoloriaethau neu wobrau yn enw'r gronfa, yn dilyn trafodaethau gyda pherthnasau a ffrindiau Dr Roberts, gyda'r nod o "adlewyrchu'r hyn oedd Llŷr yn frwd iawn drosto" sef addysg, y Gymraeg, diwylliant, a busnes yn y Gymraeg.
Ychwanegodd Dafydd Trystan mai Maes y Brifwyl oedd y lle gorau i lansio'r gronfa a chofio "bywyd a chyfraniad rhyfeddol Llŷr i'r Gymraeg, i'r Coleg Cenedlaethol ac i'r Eisteddfod".
Fel Ysgrifennydd Llys yr Eisteddfod Genedlaethol, fe gyfrannodd "at feddwl o'r newydd am bwrpas yr Eisteddfod a sut i ymestyn allan... ac at greu'r Eisteddfod o'r newydd".
Dywedodd Dr Llion Jones, cyfarwyddwr Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor: "Mewn amser byr gwnaeth Llŷr argraff fawr ym Mhrifysgol Bangor.
"Roedd ei ofal dros ei fyfyrwyr a'i sêl dros addysg Gymraeg yn amlwg i bawb.
"Mae'n briodol iawn felly bod y gronfa hon yn cefnogi'r hyn oedd mor agos at ei galon."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2023