Hanes hafau poethaf Cymru'r cynoesau

  • Cyhoeddwyd
Sych: Cronfa Ddŵr Taf Fechan, Merthyr Tudful yn ystod haf poeth 1976
Disgrifiad o’r llun,

Sych: Cronfa Ddŵr Taf Fechan, Merthyr Tudful yn ystod haf poeth 1976

Mae llawer ohonom yn cofio hafau braf 2003, 1995 a 1976. Ond faint wyddoch chi am hanes rai o hafau poethaf Cymru?

Yma, mae'r hanesydd Elin Tomos yn bwrw golwg ar hanes rhai o hafau sychaf Cymru.

Hafau poeth yr Oesoedd Canol

Yn 1252 a 1253 cafwyd dau haf eithriadol o boeth yn olynol. Yn llawysgrif Brut y Tywysogion mae sôn bod gwres yr haul wedi bod yn gryf tu hwnt ac wedi sychu'r ddaear i'r fath raddfeydd nad oedd modd i unrhyw gnydau a ffrwythau dyfu. Mae ffynonellau canoloesol eraill hefyd yn cyfeirio at 1252-53 fel blynyddoedd o sychder mawr ar draws gwledydd Prydain.

Ffynhonnell y llun, Wikimedia
Disgrifiad o’r llun,

Brut y Tywysogion

Yn gyffredinol, bu'r blynyddoedd rhwng 910 - 1300 yn gyfnod o hinsawdd gynnes, gyda thymereddau byd-eang fymryn yn uwch o'i gymharu â heddiw.

Mae arbenigwyr yn gytûn bod tymereddau ar gyfartaledd oddeutu 1°C yn uwch yn yr haf ac o gwmpas 0.7°C yn gynhesach yn y gaeaf.

Tyfu grawnwin yng Nghymru?

Gyda hinsawdd mwynach, daeth tyfu grawnwin yn arfer cymharol gyffredin yng Nghymru yn ystod yr Oesoedd Canol. Wrth foli Abaty Glyn-y-groes ar gyrion Llangollen, mae bardd Guto'r Glyn - bardd adnabyddus o'r bymthegfed ganrif - yn cyfeirio at eu "gwinwydd a pherllannau" ffrwythlon.

Ffynhonnell y llun, Wikimedia
Disgrifiad o’r llun,

Abaty Glyn-y-groes ar gyrion Llangollen

Roedd gwin hefyd yn boblogaidd ymhlith tywysogion ac uchelwyr Cymru; cedwid gwinoedd yn seleri'r llysoedd gyda swyddog penodol yn gyfrifol am weini'r gwin!

Mae llawysgrifau canoloesol yn cynnwys peth gwybodaeth am batrymau hinsawdd yng Nghymru'r cyfnod ond mae bwlch sylweddol yn ein gwybodaeth yn y blynyddoedd rhwng y bymthegfed ganrif hyd at yr ail ganrif ar bymtheg.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

'Gwinllan a roddwyd i'm gofal!'

Serch hynny, gwyddom bod mis Mehefin 1612 wedi bod yn gyfnod o sychder mawr yng Nghymru.

Mae sôn bod y melinau ŷd ar hyd yr afon Elwy yn Nyffryn Clwyd wedi malu oherwydd bod llif y dŵr mor isel. Gwelwyd golygfeydd tebyg yn ystod gwanwyn a dechrau tymor yr haf ym 1637 hefyd. Bryd hynny, honnwyd nad oedd unrhyw law wedi disgyn rhwng dechrau mis Mawrth hyd at 27 Mehefin.

Sychder yn difa cnydau

Yn dilyn gwres mawr 1785 fe gyfansoddodd yr emynydd Dafydd Wiliam faled yn disgrifio effaith y tywydd poeth ar amaethyddiaeth yng Nghymru. Cwynodd bod 'gwres a phoethder haf-ddydd brwd' wedi sychu afonydd a 'difa' cnydau.

Cafwyd cyfnod o sychder maith yn ystod haf 1825. Mewn llythyr at ei fab, Taliesin, ym mis Awst y flwyddyn honno, mae'r hynafiaethwr, Iolo Morganwg, yn cyfeirio at bobl yn disgyn yn farw yn y caeau ac ar y strydoedd oherwydd y gwres llethol.

Disgrifiad o’r llun,

Cofeb i gofio cyfraniad Iolo Morganwg ym Mryn y Briallu, Llundain

Ym mhapur newydd The Cambrian cyhoeddwyd rhestr faith o'r bobl a fu farw yn sgil y tywydd poeth ym mis Gorffennaf 1825.

Syrthiodd tri pherson yn farw wrth ymweld â'r ffair yng Nghastell Newydd Emlyn.

Cofnodwyd enwau Evan Jones o Gasnewydd; gwas fferm 18 oed o'r enw Richard Lewis o blwyf Llangyfelach; gwraig oedrannus o'r enw Priscilla Hopkins; a Thomas Strowbridge ym Mhilgwenlli, Sir Fynwy - pob un ohonynt wedi marw o achos effeithiau'r gwres.

Tanau gwyllt a phrinder dŵr

Roedd haf 1868 yn nodedig o boeth a sych. Ar draws y gogledd bu'n rhaid i nifer o chwareli llechi gau gan fod y mwyafrif o'u peiriannau yn cael eu pweru gan lif afonydd lleol.

Yn ôl un chwarelwr a oedd yn gweithio yn Chwarel Dinorwig ger Llanberis roedd hi'n amhosib gweithio gyda'r fath wres a oedd yn "cyfodi o'r llechi ac o'r graig".

Roedd gweithio ar y ffermydd yng ngwres tanbaid 1868 yr un mor annioddefol. Adroddwyd ym mhapur newydd Y Dydd bod gwas ar fferm Pensyflog ym Mhorthmadog wedi marw "wrth … drin y gwair, gan effeithiau'r gwres." Nodwyd bod gwas arall wedi marw gerllaw ym Mhenrhyndeudraeth hefyd.

Bu tanau gwyllt yn dra chyffredin yn ystod haf 1868 hefyd. Bu llethrau Mynydd Maen ger Pont-y-pŵl a Fron-deg ger Wrecsam yn llosgi am ddyddiau. Mi wnaeth un sylwebydd gymharu tywydd Cymru 'fel pe buasem yn India neu ar braries America.'

Yn 1899 cafwyd cyfnod o sychder maith yn ystod misoedd yr haf. Yng nghymoedd y de roedd pryder cynyddol ynghylch cyflenwadau dŵr yr ardal.

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna sychder hefyd yn Nyffryn Conwy yn 1936. Dyma'r olygfa tu allan i'r Old Stag ar ddiwrnod o haf y flwyddyn honno. Roedd Dafydd Huws Cwm a William Thomas Tegfan wedi cario dŵr o ffynnon y Saith Bwrlwm ac yn ei rhannu rhwng rhai o'r pentrefwyr

Yng Nghwmclydach roedd cannoedd o drigolion yn "gorfod cario dwfr am tua milltir o ffordd i'w tai." Yn Nhonypandy roedd y sefyllfa yn "ddifrifol" gyda phrinder dybryd o ddŵr yfed. Yn ardal Merthyr a'r Rhondda roedd y trigolion wedi derbyn rhybuddion i "fod yn ofalus i beidio dyfetha y dwfr" am "ei fod yn myned yn brin."

Pan fydd tymor yr haf yn dirwyn i ben, gadewch i ni obeithio mai haf bach Mihangel digon hamddenol y cawn yng Nghymru eleni.

Hefyd o ddiddordeb

Pynciau cysylltiedig