Caerdydd yn trechu Colchester ar giciau o'r smotyn

  • Cyhoeddwyd
Rubin ColwillFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe sgoriodd Rubin Colwill dros yr Adar Gleision

Mae Caerdydd wedi cyrraedd ail rownd Cwpan Carabao ond roedd angen ciciau o'r smotyn yn erbyn tîm ddwy adran yn îs i wneud hynny.

Wedi iddi orffen yn 2-2 wedi 90 munud, arbedodd Jak Alnwick dair cic o'r smotyn i sicrhau lle'r Adar Gleision.

Roedd hi'n ornest agosach na byddai tîm Erol Bulut wedi ei ddisgwyl, yn enwedig wedi i goliau gan Rubin Colwill a Kion Etete eu rhoi 2-0 ar y blaen.

Ond tarodd Colchester yn ôl gyda dwy gôl gyflym gan John Akinde a Joe Taylor cyn hanner amser.

Gorffennodd yr ymwelwyr gyda 10 dyn wedi i'r eilydd Samson Tovide gael ei anfon o'r maes yn hwyr yn dilyn tacl ofnadwy ar Jamilu Collins.